Ysgol Gynradd Lansdowne
ysgol gynradd yng Nghaerdydd
Ysgol gynradd yn Nhreganna, Caerdydd ydy Ysgol Gynradd Lansdowne (Saesneg: Lansdowne Primary School). Sefydlwyd ym 1898, a dathlodd ei phen-blwydd yn 110 ar 17 Ionawr 2008.
Math o gyfrwng | ysgol gynradd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1898 |
Lleoliad | Ysgol Gynradd Lansdowne |
Rhanbarth | Caerdydd, Treganna |
Gan fod cymaint o alw am addysg Gymraeg yng Nghaerydd a 8,000 o lefydd gwag yn ysgolion cyfrwng Saesneg y ddinas, felly, yn 2009, roedd bwriad cau Ysgol Gynradd Lansdowne a symud Ysgol Gymraeg Treganna i'r safle hwnnw, sydd llawer mwy.[1] Ond rhoddwyd y gorau i gynlluniau i gau'r ysgol yn dilyn protestiadau gan rieni.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (17 Rhagfyr 2009) Disgwyl penderfyniad ar ddyfodol addysg Gymraeg Caerdydd, Cyfrol 22, Rhifyn 16
- ↑ WalesOnline (2009-04-30). "Parents will fight on for Lansdowne primary school". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-10-05.
- ↑ Evans, Gareth (2010-03-26). "Senedd protest over Ysgol Treganna". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-10-05.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2009-12-20 yn y Peiriant Wayback