Ysgol Gynradd Nefyn

Ysgol gynradd naturiol Gymraeg ydy Ysgol Gynradd Nefyn, ym mhentref Nefyn, Penrhyn Llŷn, Gwynedd. Sefydlwyd yr ysgol ym 1859.

Ysgol Gynradd Nefyn
Enghraifft o'r canlynolysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
LleoliadNefyn Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthGwynedd Edit this on Wikidata

Y pennaeth presennol yw Mrs Glenys Williams. Yn 2016 roedd gan yr ysgol 138 o ddisgyblion ar y gofrestr, gydag oddeutu 75% ohonynt yn dod o gartrefi lle siaradir y Gymraeg.[1] Mae talgylch yr ysgol yn cynnwys Llithfaen, Morfa Nefyn, Boduan a Nefyn ei hun.

Mae gan y disgyblion ddewis o ran ysgol uwchradd, wedi cwblhau blwyddyn 6 yn y system addysgol caent fynd ymlaen i naill ai Ysgol Botwnnog neu Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. [1][dolen marw] Adroddiad Arolygiad Ysgol Gynradd Nefyn 2016.