Ysgol Manod
Ysgol gynradd Gymraeg sy'n gwasanaethu ardal y Manod ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd yw Ysgol Manod. Mae 101 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyngor Gwynedd (Medi 2017).[1] Mae'n un o 6 ysgol gynradd yn nalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.
Pennaeth yr ysgol ar hyn o bryd yw Mrs Carys Jones.
Ar ddiwedd yr 1970au symudodd yr ysgol i'w safle presennol ar fryn uwchlaw ardal y Manod. Mae safle'r hen ysgol ar Heol Manod wedi cael ei ddatblygu'n stad dai fechan, bellach, gyda'r gwaith yn cael ei gwblhau yn 2007.
Yn 2008 cyhoeddodd Cyngor Gwynedd eu bwriad i uno'r ysgol gydag Ysgol Maenofferen, gan greu un ysgol newydd ar gyfer Blaenau Ffestiniog. Yn dilyn yr ymateb negyddol i fwriadau'r Cyngor mae'r holl gynlluniau wedi eu rhoi ar y naill ochr.