Ysgol Rhewl
Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yn Rhewl ger Rhuthun, Sir Ddinbych yw Ysgol Rhewl.[1] Mae'n ysgol categori C o dan y system iaith, ac yn gwasanaethu plant rhwng 4 ac 11 oed. Roedd 41 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol ym mis Ionawr 2009,[2] i gymharu a 42 yn 2005 (yn cynnwys 9 o blant meithrin). Dim ond saith disgybl oedd yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf yn 2005.[3]
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gynradd |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Sir Ddinbych, Cymru |
Roedd yr ysgol dan fygythiad o gau yn sgil cynlluniau ad-drefnu ysgolion Cyngor Sir Ddinbych a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2005.[4]
Gellir gweld Moelydd Clwyd o du blaen yr ysgol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwybodaeth Am Ysgol: Manylion: Rhewl Cynradd. Cyngor Sir Ddinbych. Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
- ↑ Canllaw Gwybodaeth ar Ysgolion 2010/2011. Cyngor Sir Ddinbych. Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
- ↑ Adroddiad arolygiad Ysgol Rhewl, 9–11 Mai 2005. Estyn (13 Gorffennaf 2005).
- ↑ Cau neu uno 14 ysgol. BBC (15 Chwefror 2005).