Ysgol Steiner Eryri
ysgol rhestredig Gradd II* ym Mhorthmadog
Ysgol Steiner ar gyfer plant iau oedd Ysgol Steiner Eryri, a agorwyd ym Mhlas Tan-yr-Allt, Tremadog, Gwynedd ym 1985. Hon oedd yr ail ysgol Steiner yng Nghymru, ar ôl Ysgol Nant-y-Cwm, Clunderwen, Sir Benfro. Newidiwyd ei henw i Ysgol Steiner Tan-yr-Allt, yn fuan cyn iddi gau, tua 2000.
Enghraifft o'r canlynol | adeilad ysgol, plasty gwledig |
---|---|
Rhan o | Tremadoc Estate |
Dechrau/Sefydlu | 1800s |
Lleoliad | Porthmadog |
Perchennog | William Alexander Madocks |
Rhanbarth | Porthmadog |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Prynwyd Plas Tan-yr-Allt gan William Alexander Madocks yn 1798, a trawsnewidwyd i fod yn un o dai cynharaf Cymru o gyfnod y Rhaglywiaeth. Cafodd ei rhentu gan y bardd Seisnig Percy Bysshe Shelley o 1812 hyd 1816. Prynwyd yn ddiweddarach gan teulu Greaves a oedd yn berchen ar chwarel lechi ym Mlaenau Ffestiniog.[1] Tŷ haf yw hi erbyn hyn.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 04 Tan yr Allt. Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Adalwyd ar 28 Mehefin 2008.
- ↑ Plas Tan-yr-Allt Holiday House. Plas Tan-yr-Allt. Adalwyd ar 28 Mehefin 2008.