Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd
ysgol yn Nhredelerch, Caerdydd
Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn ardal Tredelerch, Caerdydd, ydy Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd (Saesneg: St Illtyd's Roman Catholic High School).
Arwyddair yr ysgol ydy "Together in Christ, we make a difference", a strwythir y dysgu oamgylch y cyd-destun hwn.[1]
Roedd 724 o ddisgyblion yn yr ysgol ystod arolygiad Estyn 2006, daeth 14% ohonynt o gefndiroedd lleiafrif ethnig. Daeth 5.3% o gartrefi lle nad oedd Saesneg na Chymraeg yn iaith gyntaf.[1]
Nid oes gan yr ysgol chweched dosbarth, mynychai'r disgyblion Goleg Gatholig Dewi Sant ar gyfer addysg bellach.[1]
Agorwyd adeiladau newydd yr ysgol ym mis Rhagyfr 2003, ar yr un safle â'r hen adeiladau.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Report: St Illtyds Catholic High School Inspection: 27 November 2006. Estyn (1 Chwefror 2006).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd Archifwyd 2009-05-11 yn y Peiriant Wayback (Saesneg)