Ysgol y Gorlan

ysgol yng Nhremadog, Gwynedd

Ysgol gynradd gymunedol[1] naturiol Gymraeg, ym mhentref Tremadog, Gwynedd, ydy Ysgol y Gorlan. Sefydlwyd yr ysgol ym 1859. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 3 ac 11 oed[1] o'r pentref a’r ardal gyfagos, sef Golan, Cwmystradllyn, Penmorfa, Treflys a Phrenteg.[2]

Ysgol y Gorlan
Mathysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPorthmadog Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.939681°N 4.147682°W Edit this on Wikidata
Cod postLL49 9RN Edit this on Wikidata
Map

Y pennaeth presennol yw Mr Rhys Meredydd Glyn,[1] sydd wedi bod yn y swydd ers Rhagfyr 1992. Enillodd yr ysgol y Marc Safon gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn 2000. Roedd 102 o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2002, yn ogystal â 13 o blant meithrin rhan-amser. Disgrifwyd safon yr addysg yn gyffredinol fel da gan Estyn yn 2002 ac 2008, ac yn dda iawn mewn sawl maes.[2][3] Arhosodd niferau'r disgyblion yn weddol gyson gyda 106 yn 2008, ac 16 o blant meithrin.[2]

Dim ond tua hanner y disgyblion ddaw o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, ond gall 80% ohonynt siarad yr iaith i safon iaith gyntaf.[2]

Wedi cwblhau blwyddyn 6 yn y system addysgol, aiff y disgyblion ymlaen i Ysgol Eifionydd, Porthmadog.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  Dalgylch Porthmadog>Ysgol y Gorlan. Cyngor Gwynedd. Adalwyd ar 5 Ionawr 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Adroddiad arolygiad Ysgol y Gorlan, 22 Ebrill 2008. Estyn (26 Mehefin 2008).
  3.  Adroddiad arolygiad Ysgol y Gorlan, 10–12 Mehefin 2002. Estyn (12 Awst 2002).
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.