Ysgubor Galisiaidd
Adeilad amaethyddol (neu 'granar') i gadw india corn yn sych yng Ngalisia yw Ysgubor Galisiaidd. Fe'i cynlluniwyd mewn modd sy'n caniatáu i aer symud drwyddo lle bod y cnwd oddi fewn yn pydru, ac er mwyn atal anifeiliaid fel llygod rhag eu difa.[1]
Ceir hyd i'r Sgubor Galisiaidd ar hyd a lled y wlad, ac mewn rhai mannau yng ngogledd Portiwgal. Maent i'w gweld yn ne-ddwyrain Galisia gan mwyaf ac yn yr ardaloedd arfordirol. Ceir nifer o enwau Galisieg am y sgubor hwn gan gynnwys "hórreo" yng nghanol a gogledd y wlad, "cabazo" yn y gogledd-orllewin a "canastro" neu 'fasged' yn y de.[2]
Mae'r darlun cyntaf a geir ohonynt i'w ganfod yn Cantigas de Santa Maria, ac mae'n dyddio'n ôl i'r 13g. Mae'r ysgubor a ddarlunir yn debyg iawn i'r ysguborion a welir heddiw - siambr hir, petrual ar bedair colofn.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Lorenzo Fernández, X. A terra. Editorial Galaxia, 1982. ISBN 84-7154-407-5, 9788471544070.
- ↑ López Soler, J. Los hórreos gallegos. Sociedad Española de Antropología, Etnografía y Prehistoria. Actas y Memorias, tomo X, cadernos 1º e 2º. Madrid, 1931. Facsímile reproducido como anexo a Frankowski, E. Hórreos y palafitos de la Península Ibérica. Edición facsímile. Ediciones Istmo. Madrid, 1986. ISBN 84-7090-168-0.