Llygoden
Llygoden Gyffredin Amrediad amseryddol: Miosen hwyr - heddiw | |
---|---|
![]() | |
Llygoden gyffredin, Mus musculus | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | cnofilod |
Uwchdeulu: | Muroidea |
Teulu: | Muridae |
Is-deulu: | Murinae |
Genws: | Mus Linnaeus, 1758 |
Rhywogaeth | |
30 rhywogaeth |
Mamal bychan yw llygoden (enw benywaidd; lluosog: llygod), sy'n perthyn i urdd y cnofilod, ac sy'n hawdd ei hadnabod oherwydd ei chynffon main, di-flew, pwt o drwyn a chlustiau crwm. Y mwyaf cyffredin yw'r Mus musculus a chaiff ei magu fel anifail dof (anifail anwes). Mewn rhai cynefinoedd mae llygoden y maes hefyd yn gyffredin iawn. Mae'n ysglyfaeth i rai adar mawr eu maint megis y cudyll, y dylluan a'r eryr a mamaliaid eraill megis y gath a'r neidr. Ar adegau maent yn dod i fewn i dai pobl a gallant lochesu oddi fewn i hen waliau.
Gallant ar adegau fod yn bla, gan fwyta a difetha cnyda'r amaethwr[1] gan achosi cryn golled a lledaenu afiechydon drwy'r parasitiaid sy'n byw arnynt a thrwy eu hysgarthiad.[2] Yng Ngogledd America, mae anadlu llwch sy'n cynnwys eu hysgarthiad wedi'i gysylltu gyda hantavirus, a all, yn ei dro, achosi Hantavirus Pulmonary Syndrome (HPS).
Anifail nosol ydynt yn bennaf sy'n dibynnu ar eu clyw yn hytrach na'u golwg.[3][4] Mae eu synnwyr arogli hefyd wedi'i fireinio'n arbennig iawn, yn enwedig er mwyn canfod bwyd a lleoli helwyr fel cathod.[5]
Mewn llenyddiaethGolygu
- Crogi llygoden: Yn nhrydedd gainc y Mabinogi (sef chwedl Manawydan fab Llŷr) mae Manawydan, brawd Branwen a Brân Fendigaid a Phryderi yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwio mewn caer hud, ac yna mae Rhiannon hithau yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r lygoden. Datgelir mai gwraig feichiog Llwyd fab Cil Coed yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill Gwawl fab Clud ei gamdrin gan Pwyll yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.
- 'Crogi Llygoden' - cân gan Geraint Jarman.[6]
- Ceir hen bennill enwog am ddwy lygoden:
- Mi welais ddwy lygoden
- Yn cario Pont Llangollen,
- Rownd-abowt o gylch y ddôl
- Ac yn eu hôl drachefen!
Rhywogaethau o “lygod” yng NghymruGolygu
LlygodGolygu
- Llygoden y coed – Apodemus sylvaticus
- Llygoden fronfelen – Apodemus flavicollis
- Llygoden y tŷ – Mus musculus
- Llygoden yr ŷd – Micromys minutus
Llygod mawrGolygu
- Llygoden ffyrnig/Ffrengig/Norwy – Rattus norvegicus
- Llygoden ddu – Rattus rattus
Llygod pencrwnGolygu
- Llygoden bengron goch – Myodes glareolus (Clethrionomys glareolus cynt)
- Llygoden bengron y gwair – Microtus agrestis
- Llygoden bengron y dŵr – Arvicola amphibius (Arvicola terrestris cynt)
- Llygoden bengron Sgomer – Myodes glareolus skomerensis (Clethrionomys glareolus skomerensis cynt)
LlygonGolygu
(dim wir yn llygod o gwbl)
- Llyg cyffredin – Sorex araneus
- Llyg lleiaf – Sorex minutus
- Llyg y dŵr – Neomys fodiens
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Meerburg BG, Singleton GR, Leirs H (2009). "The Year of the Rat ends: time to fight hunger!". Pest Manag Sci 65 (4): 351–2. doi:10.1002/tud.1718. PMID 19206089. http://www3.interscience.wiley.com/journal/121686000/abstract. Adalwyd 2012-12-24.
- ↑ Meerburg BG, Singleton GR, Kijlstra A (2009). "Rodent-borne diseases and their risks for public health". Crit Rev Microbiol 35 (3): 221–70. doi:10.1080/10408410902989837. PMID 19548807. http://www.informahealthcare.com/doi/pdf/10.1080/10408410902989837.
- ↑ Behney - Explorations of Deer-Mouse
- ↑ The Field Mouse
- ↑ "The Humane society of the United States". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-22. Cyrchwyd 2012-12-24.
- ↑ Gwefan Last FM; adalwyd 24/12/2012
Gweler hefydGolygu
- Rhestr mamaliaid Cymru
- Bochdew
- Llyg (Shrew: Sorex)
Dolennau allanolGolygu
Mae gan Wicirywogaeth wybodaeth sy'n berthnasol i: Mus |
- Fancy Mice: sut i gadw llygod dof
- Ymenydd y llygoden mewn lluniau
- Hanes y llygoden a geneteg diweddar Archifwyd 2007-07-03 yn Archive-It
- Mouse Tracks: Adnabod olion y llygoden