Y Rhyfel Oer

(Ailgyfeiriad o Rhyfel Oer)

Ymryson rhwng yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw ar naill ochr a'r Unol Daleithiau a gwledydd NATO ar y llall oedd y Rhyfel Oer. Cychwynnodd ar ôl yr Ail Ryfel Byd a pharhaodd o tua 1945 hyd i tua 1990. Daeth i ben o ganlyniad i gwymp yr Undeb Sofietaidd. Roedd yn "rhyfel oer" oherwydd na chafwyd rhyfel agored (rhyfel "poeth") rhwng y gwledydd hynny. Defnyddiodd Bernard Baruch, ymgynghorydd i Arlywydd yr Unol Daleithiau, y term "Rhyfel Oer" am y tro cyntaf yn ystod dadl yn Senedd yr Unol Daleithiau yn 1947.

Y Rhyfel Oer
Enghraifft o'r canlynolcold war, perpetual war, proxy war, cyfnod o hanes Edit this on Wikidata
Mathlow-intensity conflict Edit this on Wikidata
Dyddiad1946 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Dechreuwyd1945 Edit this on Wikidata
Daeth i ben25 Rhagfyr 1991 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganyr Ail Ryfel Byd Edit this on Wikidata
Olynwyd ganpost–Cold War era Edit this on Wikidata
LleoliadAmerica Ladin, Asia, Affrica, Ewrop Edit this on Wikidata
Yn cynnwysy Rhyfel Athreuliol, Chwyldro Saur, proxy war, Operation Cyclone, Afghan conflict Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Rhyfel Corea, Rhyfel Fietnam ac ymyrraeth filwrol yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan ymhlith canlyniadau'r Rhyfel Oer. Fodd bynnag, nid brwydro agored oedd nodwedd bennaf y Rhyfel Oer, ond cystadlu am rym a dylanwad yn y byd. Roedd y ddwy ochr yn ysbïo ar ei gilydd yn rheolaidd.

Un o bryderon mawr y cyfnod hwn roedd y cynnydd mewn arfau niwclear a'r perygl o gael Trydydd Rhyfel Byd a fyddai'n dinistrio'r blaned gyfan. Arweiniodd hynny at dwf y Mudiad Heddwch, er enghraifft CND yng ngwledydd Prydain.

Un o ganolbwyntiau tensiwn Rhyfel Oer roedd yr Almaen ranedig, yn enwedig Berlin a oedd yn ddinas ranedig ar y ffin rhwng Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen ("Dwyrain yr Almaen") a Gweriniaeth Ffederal yr Almaen ("Gorllewin yr Almaen"). Roedd Mur Berlin yn rhannu Berlin yn ddwy ran - Gorllewin Berlin a Dwyrain Berlin - yn un o'r symbolau'r Rhyfel Oer.

Brwydr y tonfeddi

golygu

Un nodwedd o'r Rhyfel Oer, oedd brwdyr y tonfeddi wrth i wladwriaethu comiwnyddol a Gorllewinnol ddeall pwysigrwydd a grym darlledu dros donfeddi radio. Ar ochr y Gorllewin sefydlwyd Radio Free Europe a Radio Liberty y naill yn 1949 a'r llall yn 1953 gan ddarlledu yn ieithoedd Dwyrain Ewrop, Canolbarth Asia a'r Dwyrain Canol gyda newyddion a sylwadau na fyddai wedi dod o'r llywodraethau lleol.

  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.