Yusra (archaeolegydd)
Archaeolegydd o Balestina oedd Yusra a weithiodd gyda'r archeolegydd Prydeinig Dorothy Garrod yn ei gwaith cloddio ar Fynydd Carmel. Er na wyddys llawer am fywyd Yusra cyn neu ar ôl hynny, na hyd yn oed ei henw llawn, roedd yn aelod blaenllaw o'r tîm cloddio rhwng 1929 a 1935. Yn fwyaf nodedig, caiff y clod am ddarganfod Tabun 1, penglog Neanderthalaidd 120,000 oed o Ogof Tabun.[1] Gellir cymharu'r darganfyddiad i'r olion Neadnderthal a gafwyd yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy, sy'n mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd.
Yusra | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Palesteina |
Galwedigaeth | archeolegydd |
Cysylltir gyda | Tabun cave |
Mynydd Carmel a darganfod Tabun 1
golyguTybir bod Yusra yn dod o naill ai Ijzim neu Jaba', yn rhanbarth Haifa o'r hyn a oedd ar y pryd yn Balesteina dan Fandad.[2] Ym 1929, dechreuodd yr archeolegydd Prydeinig Dorothy Garrod gloddio yn y rhanbarth o amgylch Mynydd Carmel ac, yn dilyn arfer cyffredin ar y pryd, llogodd weithwyr lleol o'r pentrefi cyfagos i weithio. Er na chawsant eu hyfforddi'n ffurfiol mewn archeoleg, roedd y gweithwyr hyn yn aml yn gloddwyr medrus gyda degawdau o brofiad. Yn anarferol, llogodd Garrod nifer fawr o ferched i weithio ar ei chloddfa hi: mwy o ferched na dynion. Pan ymwelodd Mary Kitson Clark â thymor cyntaf y gwaith cloddio, nododd yr ymarfer da 'ffeministaidd' ar y safle: roedd dynion yn gwneud y gwaith mulod, tra bod menywod yn gwneud y gwaith medrus o gloddio a chfnodi'n daclus. Roedd Yusrah yn un o'r menywod hyn.[3]
Arhosodd Yusra gyda Garrod trwy gydol y gwaith archaeolegol ym Mynydd Carmel, rhwng 1929 a 1935, gan weithio ar safleoedd cynhanesyddol pwysig fel Tabun, El Wad, Es Skhul, Shuqba a Kebara. Daeth "yr arbenigwr mwyaf treiddgar" o'r menywod a gyflogwyd gan Garrod,[3] ac fe'i penodwyd yn fforman. Gweithiodd ochr yn ochr â Jacquetta Hawkes, un o fyfyrwyr Garrod a aeth ymlaen i ddod yn archeolegydd ac yn awdur amlwg.[2]
Un o dasgau Yusra oedd sgrinio pridd wedi'i gloddio gyda llaw a llygad cyn iddo gael ei anfon i'w roi drwu ogor. Ym 1932, wrth weithio yn Ogof Tabun, daeth o hyd i ddant a sylweddolwyd ei fod yn rhan o benglog ddynol, tameidiog, o'i rhoi gyda'i gilydd y gallai fod yn un lled-gyflawn.[4] Ar ôl adfer y benglog (o'r enw Tabun 1) sylweddolwyd ei bod yn perthyn i oedolynNeanderthal benywaidd a drigai rhwng 120,000 a 50,000 o flynyddoedd yn ôl.[1] Fe'i disgrifiwyd fel "un o'r ffosiliau dynol pwysicaf a ddarganfuwyd erioed."
Coleg
golyguRhannodd Yusra â Hawkes ei huchelgais i astudio yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt, lle'r oedd Garrod yn gymrawd, ond ni wireddwyd hyn. Ni wyddys beth ddaeth ohoni ar ôl i gloddiadau Mount Carmel ddod i ben. Yn wir, diboblogwyd Izjim a Jaba yn ystod y Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948, ac er ymdrechu i ddod o hyd iddi, methwyd yn llwyr.[2][4] Daw'r ychydig sy'n hysbys o'i bywyd o ddyddiaduron Kitson Clark ac atgofion Hawkes, yn ogystal â phapurau o Garrod a gafodd eu hailddarganfod gan yr ymchwilydd Pamela Jane Smith ym 1997.[5][6]
Gwnaeth darganfyddiad Yusra o Tabun 1 gyfraniad parhaol i wyddoniaeth a hanes. Trafodwyd ei stori fel enghraifft o fenyw na chydnabuwyd ei chyfraniad at archeoleg gynnar ac a anghofiwyd amdani i raddau helaeth ers hynny.[2][7][8][9][10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Tabun 1". Human Origins Program (yn Saesneg). Smithsonian National Museum of Natural History. 30 Mawrth 2016. Cyrchwyd 4 Ionawr 2018.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Herridge, Victoria. "Yusra". TrowelBlazers. Cyrchwyd 2018-01-04.
- ↑ 3.0 3.1 Callander, Jane; Smith, Pamela Jane (2007). "Pioneers in Palestine: The Women Excavators of El-Wad Cave, 1929". In Hamilton, Sue; Whitehouse, Ruth D.; Wright, Katherine I. (gol.). Archaeology and Women: Ancient and Modern issues. Publications of the Institute of Archaeology, University College London (yn Saesneg). Walnut Creek, CA: Left Coast Press. tt. 76–82. ISBN 9781598742244.
- ↑ 4.0 4.1 Smith, Pamela Jane (2009). A "Splendid Idiosyncrasy": Prehistory at Cambridge 1915–50. BAR British Series 485 (yn Saesneg). Oxford: Archaeopress. t. 85. ISBN 9781407304304.
According to Jacquetta Hawkes, Yusra acted as foreman in charge of picking out items before the excavated soil was sieved; over the years, she became expert in recognising bone, fauna, hominid and lithic remains and had spotted a tooth which led to the crushed skull. Hawkes remembered talking to Yusra about coming up to Cambridge. "She had a dream. She was very able indeed. Yusra would obviously have been a Newnham Fellow." The villages of Jeba and Ljsim were destroyed in 1948 and I was unable to trace most members of the Palestinian team.
- ↑ Smith, Pamela Jane (12 Ebrill 2005). "From 'small, dark and alive' to 'cripplingly shy': Dorothy Garrod as the first woman Professor at Cambridge" (yn Saesneg). Division of Archaeology, University of Cambridge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-21. Cyrchwyd 4 Ionawr 2018.
- ↑ Smith, Pamela Jane; Callander, Jane; Bahn, Paul G.; Pinçlon, Genevi (1997). "Dorothy Garrod in words and pictures". Antiquity 71 (272): 265–270. doi:10.1017/S0003598X00084891. ISSN 0003-598X. https://www.cambridge.org/core/journals/antiquity/article/dorothy-garrod-in-words-and-pictures/DE212D7555F697EAFAC78D8325AF8CE4.
- ↑ Newitz, Annalee (7 Gorffennaf 2014). "This Incredible Paleontologist Has Been Missing for Decades". io9 (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-21. Cyrchwyd 4 Ionawr 2018.
- ↑ Tapply, Sue (19 Rhagfyr 2014). "Telling a story of three women". Women's Views on News (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Ionawr 2018.
- ↑ "Event covers history of women". Bradford Telegraph and Argus (yn Saesneg). 2015-03-17. Cyrchwyd 4 Ionawr 2018.
- ↑ "Discovering More Women in Archaeology". GIRLS CAN! CRATE blog (yn Saesneg). 25 Ionawr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-21. Cyrchwyd 4 Ionawr 2018.
Dolen allanol
golygu- Model 3D o benglog Tabun 1 - Sefydliad Smithsonian