Palesteina dan Fandad

cyn wladfa Brydeinig Palesteina/Israel 1920 -1948
(Ailgyfeiriad o Palesteina (Mandad))

Mandad Palestina, (Arabeg: فلسطين‎, Filasṭīn; Hebraeg: פָּלֶשְׂתִּינָה) yw enw llywodraethau Palestina a Jordaniaid Ymerodraeth Otomanaidd rhwng Rhyfel Byd Cyntaf a 1948 (Palestina) a 1946 (Trawsiorddonen a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gwlad Iorddonen) Prydeinig Mandad i Balestina.

Palesteina a Trawsiorddonen (dan wahanol drefniadau cyfreithiol a gweinyddol) fel rhan o fandad Palesteina a gyhoeddwyd gan Cynghrair y Cenhedloedd i'r Deyrnas Unedig ar 29 Medi 1923
Palesteina a Trawsiorddonen (dan wahanol drefniadau cyfreithiol a gweinyddol) fel rhan o fandad Palesteina a gyhoeddwyd gan Cynghrair y Cenhedloedd i'r Deyrnas Unedig ar 29 Medi 1923

Cyd-destun

golygu
 
Baner Palesteina Mandad ar gyfer cofrestru llongau, 1927-1948

Yn dilyn cytundeb dirgel Sykes-Picot rhwng Prydain a Ffrainc yn 1915 cytunwyd y byddai'r ddwy ymerodraeth yn rhannu'r Dwyrain Canol yn dilyn ennill y Rhyfel Mawr. Roedd y ddwy wlad i gael rheolaeth lawn neu tra-arglwyddiaeth dros y tiroedd Arabaidd i'r de o Anatolia yn dilyn cwymp disgwyladwy Ymerodraeth yr Otomaniaid.

Yn ogystal â chytundeb dirgel Sykes-Picot, yn 1917 fe addawodd Llywodraeth Prydain y byddai'n sefydlu 'cartref cenedlaethol i'r bobl Iddewig' ym Mhalesteina — yr hyn a elwir yn 'Datganiad Balfour'. Roedd yr union diriogaeth heb ei chadarnhau na chwaith beth oedd gwir ystyr y gair 'cartref cenedlaethol' gan fod y Datganiad hefyd yn addo cydnabod hawliau sifil a chrefyddol y bobl nad oedden nhw'n Iddewon oedd eisoes yn byw yn y wlad. Ni chyfeiriwyd yn benodol at 'Palestiniaid' nag 'Arabiaid' er mai nhw oedd mwyafrif llethol y boblogaeth ar y pryd ac ni fu unrhyw ymgynghori â phoblogaeth frodorol Palesteina cyn gwneud y Datganiad.

Gyda cwymp y Grymoedd Canolog (Ymerodraethau'r Almaen, Awstria-Hwngari, Twrci Otomanaidd a Bwlgaria) trosglwyddwyd rheolaeth dros y tir a ddaeth yn Balesteina i Brydain — er bod y rhan fwyaf o'r tir ar y pryd yn rhan o dalaith "Vilayet" "Syria".

Tiriogaeth

golygu
 
Stamp Mandad tairieithog, Saesneg, Arabeg, Hebraeg

Gyda Chynhadledd San Remo yn 1920 cytunodd y cynghreiriaid (heb ystyried barn y trigolion lleol mewn unrhyw sylwedd) i drosglwyddiad y diriogaeth yn ffurfiol i Brydain. Roedd Palesteina'r Mandad yn wreiddiol i gynnwys y cyfan o Balesteina ac Israel gyfoes ynghyd â'r hyn sydd nawr yn Wlad yr Iorddonen. Roedd y ffin dde-orllewinnol yn dilyn y ffin rhwng yr Aifft (oedd eisoes o dan ddylanwad Prydain) a hen Ymerodraeth yr Otomaniaid, ac, felly, ddim yn cynnwys penrhyn Sinai.

Roedd rheolaeth y diriogaeth i fod yn wahanol i wladychu ymerodraethol llawn gan ei bod i'w rheoli o dan "mandad" gan Gynghrair y Cenhedloedd ar y dealltwriaeth y byddai Prydain yn adeiladu'r wlad a pharatoi'r brodorion ar gyfer hunanlywodraeth lawn yn y dyfodol, "until such time as they are able to stand alone".[1] Roedd Palesteina, ynghyd â thiriogaethau eraill a oedd gynt yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid, yn diriogaethau Mandad Dosabarth A, sef rhai sydd: "have reached a stage of development where their existence as independent nations can be provisionally recognised subject to the rendering of administrative advice and assistance by a Mandatory".

Yn 1922 rhannwyd y diriogaeth yn ddwy wladfa, Palesteina a Thrawsiorddonen (Gwlad yr Iorddonen gyfoes). Tra bod Palesteina'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan Brydain tan 1948, roedd Trawsiorddonen yn diriogaeth led-annibynnol o dan reolaeth teulu brenhinol yr Hashimiaid oedd, yn wreiddiol o'r Hijaz, ac a ddaeth yn annibynnol yn 1946.

Demograffeg

golygu
 
Memorandwm Mandad a gyflwynwyd i Senedd Prydain, Rhagfyr 1922

Roedd y diriogaeth wedi gweld ymdufo bwriadol a chyson gan Iddewon fel rhan o'r aliya i'r wlad a thrwy fudiadau Seionistaidd fel Chofefei Tzion. Erbyn i Brydain gymryd rheolaeth o'r diriogaeth roedd yr "Yishuv" (y gymuned Iddewig) wedi dechrau adeiladu ei system addysg, iechyd, amddiffyn a thirfeddiannu ei hun, yn ogystal ag adfer yr iaith Hebraeg o dan arweiniad ac ysbrydoliaeth pobl fel Eliezer Ben-Yehuda.

Roedd y boblogaidd Arabaidd yn dal i fod mewn mwyafrif clir dros yr Iddewon drwy gydol cyfnod y Mandad. Roedd y boblogaeth honno wedi gweld twf mewn niferoedd, yn bennaf o ganlyniad i gynnydd naturiol, ond bu peth mewnfudo o wledydd Arabaidd cyfagos er mwyn manteisio ar gyfleoedd gwaith newydd, ond mae angen gwrthbwyso hynny â'r allfudo oedd yn digwydd, e.e. i gael addysg uwch yn yr Aifft neu swyddi yng ngwasanaeth sifil newydd Trawsiorddonen.[2][3]

Cafodd yr ardal ei nodweddu gan fewnfudo ar raddfa helaeth gan Iddewon Ewropeaidd ar ôl i Brydain ymgymryd â'r mandad yn 1920. Arweiniodd hyn at gynnydd yn lefel y gwrthdaro ac yn y pen draw, mwy o wrthryfel a gwrthdaro treisgar rhwng yr Iddewon a'r Palestiniaid brodorol. Yn 1947, torrodd rhyfel allan rhwng y ddwy ochr pan benderfynodd y Cenhedloedd Unedig hollti Palesteina yn ddau i greu gwladwriaeth Iddewig a gwladwriaeth Arabaidd. Defnyddiodd y gymuned Iddewig y penderfyniad hwn yn sail dros ddatgan Israel yn wladwriaeth annibynnol ond gwrthododd y gymuned Arabaidd hollti'r wlad.

Poblogaeth 1850—1915 (dan rheolaeth Otomanaidd)

golygu

Yn seiliedig ar niferoedd y hanesydd Justin McCarthy (Poblogaeth Palesteina, Hanes y Boblogaeth ac Ystadegau'r Cyfnod Ottomaniaid Hwyr a'r Mandad; Gwasg Prifysgol Columbia; ISBN 0-231-07110-8)

Blwyddyn Cyfanswm Arabiaid Mwslim Iddewon Arabiaid Cristnogol
1850 340 000 300 000 (88,2 %) 13 000 (3,8 %) 27 000 (7,9 %)
1880 456 929 399 334 (87,4 %) 14 731 (3,2 %) 42 864 (9,4 %)
1900 586 581 499 110 (85,1 %) 23 662 (4 %) 63 809 (10,9 %)
1915 722 143 602 377 (83,4 %) 38 754 (5,4 %) 81 012 (11,2 %)

Poblogaeth 1922—1945 (dan reolaeth Prydain)

golygu
Blwyddyn Cyfanswm Arabiaid Mwslim Iddewon Arabiaid Cristnogol Eraill
1922 752 048 589 177 (78%) 83 790 (11%) 71 464 (10%) 7 617 (1%)
1931 1 036 339 761 922 (74%) 175 138 (17%) 89 134 (9%) 10 145 (1%)
1945 1 764 520 1 061 270 (60%) 553 600 (31%) 135 550 (8%) 14 100 (1%)

Uwch Gomisiynwyr Prydain dros Palesteina Mandad

golygu
  • 1920—1925: Herbert Louis Samuel
  • 1925—1928: Herbert Plumer
  • 1928—1931: John Robert Chancellor
  • 1945—1948: Alan G. Cunningham

Nodweddion

golygu

Nodweddwyd y cyfnod gan dwf yn nhrefniadaeth a hunan-hyder y gymuned Iddewig gan gynnwys sefydlu'r Brifysgol Hebreig yn Jerwsalem yn 1925; corff undebol cenedlaethol (yr Histadrwt), llu amddiffyn yr Haganah ac yn 1924 gwnaed Hebraeg yn un o ieithoedd swyddogol y Mandad (ynghyd ag Arabeg a'r Saesneg).

 
Menachem Begin, cyn brif swyddog yr Irgun a chyn Brif Weinidog Israel.

Nodweddion eraill y cyfnod oedd twf mewn gwrthdaro rhwng yr Arabiaid a'r Iddewon. Cafwyd gwrthdro rhwng y ddwy gymuned trwy gydol y cyfnod ond bu Gwrthryfel Arabaidd mawr yn 1936. Erbyn iddo ddod i ben ym mis Mawrth 1939, roedd mwy na 5,000 o Arabiaid, 400 o Iddewon, a 200 o Brydeinwyr wedi eu lladd ac o leiaf 15,000 o Arabiaid wedi eu hanafu.[4] Tua diwedd cyfnod y Mandad, fe ddaeth y berthynas led gyfeillgar rhwng y gymuned Iddewig a'r awdurdodau Prydeinig i ben ac fe fu grwpiau terfysgol Seionaidd fel yr Irgwn (Etsel) a Lehi (Gang Stern) yn ymosod ar adeiladau a swyddogion y Mandad yn ogystal ag ar y gymuned Balesteinaidd Arabaidd.

Nodweddwyd yr 1930au gan lif o ddegau filoedd o Iddewon Almaenig yn ffoi rhag erledigaeth Natsiaeth.

Tîm Pêl-droed Palesteina'r Mandad

golygu

Yn 1929 cydnabuwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Palesteina'r Mandad gan FIFA a bu i'r tîm chwarae 5 gêm ryngwladol yn ystod yr 1930au a 1940au yn erbyn Libanus, yr Aifft a gêm gyfeillgar yn erbyn Groeg. Roedd y tîm yn cael ei hystyried gan yr Iddewon a'r Arabiaid, ill dau, fel tîm i'r Iddewon i bob pwrpas.

Diwedd y Mandad

golygu

Roedd Prydain wedi cydnabod annibyniaeth Trawsiorddonen yn 1946 a nodwyd y bwriad i ddod â'r Mandad dros Balesteina i ben erbyn Awst 1948.

Daeth Mandad Prydain dros Balesteina i ben ar 15 Mai 1948 pan ddatganodd David Ben-Gurion arweinydd yr Iddewon annibyniaeth i'w gwladwriaeth newydd, Israel.[5] Ond hyd yn oed cyn datgan annibyniaeth y wladwriaeth Iddewig newydd, tra oedd Prydain yn dal yn gyfrifol am Balesteina, yn Rhagfyr 1947 fe ddechreuodd Ben-Gurion ar y gwaith o garthu ethnig er mwyn sicrhau mwyafrif Iddewig.[6] Yn dilyn cyhoeddi annibyniaeth, a dechrau'r rhyfel rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd cyfagos ar 14 Mai 1948, dwysaodd yr ymdrechion i waredu tiriogaeth y wladwriaeth Iddewig o'i thrigolion Palesteinaidd brodorol drwy Gynllun Dalet gan orfodi rhyw 700,000 ohonynt i adael y wlad.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Article 22, The Covenant of the League of Nations and "Mandate for Palestine," Encyclopedia Judaica, Vol. 11, p. 862, Keter Publishing House, Jerusalem, 1972
  2. http://www.cjpme.org/fs_007
  3. Porath, Y (16 January 1986). "Mrs. Peters's Palestine". New York Review of Books 32: 21-22. https://archive.org/details/sim_new-york-review-of-books_1986-01-16_32_21-22/page/21.
  4. https://web.archive.org/web/20051215061527/http://english.aljazeera.net/NR/exeres/9A489B74-6477-4E67-9C22-0F53A3CC9ADF.htm
  5. https://web.archive.org/web/20131113183514/http://www.archives.gov.il/NR/rdonlyres/BD240CA5-379D-4FAE-81A8-069902AD1E7F/0/Truman3.pdf
  6. Pappe, Ilan (2006). The Ethnic Cleansing of Palestine. London: Oneworld. tt. 55–56. ISBN 978-1-85168-555-4.