Agor y brif ddewislen

Mae Ogof Bontnewydd (Ogof Pontnewydd, neu Bont Newydd) yng nghymuned Cefnmeiriadog yn nyffryn Elwy yn Sir Ddinbych (Cyfeirnod OS: SJ01527102) yn adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear Cymru gyda un dant yn mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Mae o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennog Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion. Mae Ogof Bontnewydd ac Ogof Cefn (sydd tua 300 metr i'r gorllewin, wedi'u cofrestru'n Henebion.[1] Tua 7 milltir i'r de-ddwyrain, yn Nhremeirchion mae Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno.

Ogof Bontnewydd
Ogof Bontnewydd Cave Sir Ddinbych 11.JPG
Math safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Neanderthal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.2271°N 3.4763°W Edit this on Wikidata
Lleoliad yr ogof ar draws Afon Elwy (ger y creigiau yng nghanol y llun).

Carreg galchfaen yw'r ogof ac nid ydyw ar agor i'r cyhoedd, fel arfer.[2] Yn wir, dim ond un man arall drwy wledydd Prydain sydd ag olion dyn mor gynnar a hyn, sef Eartham (Sussex).[3][4] Mae'n perthyn i Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig).

Y darganfyddiadauGolygu

Bu Stephen Aldhouse-Green o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gyfrifol am gloddio yma rhwng 1978 a 1995. Ymysg y darganfyddiadau yn yr ogof yr oedd dannedd a rhan o ên Neanderthals cynnar. Cafwyd hyd i 19 dant yn perthyn i blant ieuanc ac oedolion: un bachgen 8 a hanner oed, un ferch 9 oed bachgen 11 oed, bachgen arall 11-16 oed ac oedolyn. Gellir dehongli'r gweddillion mewn modd wahanol ac fel uchafswm mae'n bosibl fod y niferoedd cymaint a 9 plentyn a 7 oedolyn. Credir iddynt fyw rywbryd rhwng 230,000 a 185,000 o flynyddoedd yn ôl. Y dechneg a ddefnyddiwyd i ddyddio oedran y gwrthrychau oedd y gyfres dyddio carbon drwy iwraniwm a Thermoluminescence (TL) ar y llawr stalagmitig.

Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt, 1,282 o arteffactau carreg a 4,822 asgwrn. Daeth yr esgyrn hyn o lewod, rhinoseros, ceirw, eirth a llewpad; mae'r esgyrn llewpad yn hynod brin a dim ond mewn un man arall sef Ogof Bleadon yng Ngwlad yr Haf mae i'w ganfod yng ngwledydd Prydain.[5] Darganfyddiad arall yma oedd penglog arth oedd yn dyddio i gyfnod diweddarach, tua 28,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ffotograffau a dynnwyd yn 2014Golygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Y NeanderthaliaidGolygu

Roedd y Neanderthaliaid yn un gangen o goeden esblygol yr hil ddynol a chredir i'r gangen ddod i ben oddeutu 36,000 o flynyddoedd yn ôl. Nid esblygodd yr hil ddynol o'r Neanderthaliaid ond yr un oedd eu cyndeidiau hwy â rhywogaeth yr hil ddynol. Roedd yr oedolyn Neanderthalaidd yn gymharol fyr a thew a genau mawr sgwâr a dannedd sy'n fwy na'n rhai ni heddiw. Gwyddom mai perthyn i'r Neanderthal mae'r dannedd gan fod pob un nodwedd arbennig sef tawrodontiaeth: dannedd ac iddyn ofod neu geudodau bywyn mawr a gwreiddiau llai na'r arfer. Mae hyn yn nodweddiadol o ddannedd y Neanderthal.[6]

LlyfryddiaethGolygu

  • Green, S. a E. Walker (1991) Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales (Caerdydd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru)
  • Pontnewydd Cave: a lower Palaeolithic hominid site in Wales: the first report gan H. S. Green. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984).

CyfeiriadauGolygu

  1. [file:///C:/dros%20dro/SSSI_0147_Citation_EN001.pdf Cyfoeth Naturiol Cymru;] adalwyd 3 Hydref 2014
  2. Gwefan Coflein; Adalwyd 21 Mehefin 2014
  3. The Archaeology of Clwyd, Cyngor Sir Clwyd 1991 tudalen 32
  4. Hanes Cymru gan John Davies, Cyhoeddwr: Penguin, 1990, ISBN 0-14-012570-1; tudalen 3
  5. Caves of North Wales; adalwyd 21 Mehefin 2014
  6. Archaeoleg Heddiw; Dannedd Neanderthalaidd o Ogof Pontnewydd; adalwyd 21 Mehefin 2014