Zak Carr
Seiclwr cystadleuol o Loegr oedd Zak Carr (6 Mawrth 1975 – 17 Hydref 2005).[1] Ganwyd ef yn Norwich, Norfolk. Pan nad oedd yn ymarfer neu'n rasio roedd yn gweithio fel Swyddog Carchar, roedd yn byw yn Attleborough. Dechreuodd seiclo yn 14 oed gan ymuno â'i glwb lleol, CC Breckland.[2]
Zak Carr | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1975 |
Bu farw | 17 Hydref 2005 Norfolk |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon |
Roedd Carr yn dal recordiau Prydeinig mewn pellterau hir a byr, cystadlodd yn yr Iseldiroedd ym Mhencampwriaethau Ewrop ychydig cyn ei farwolaeth. Bu'n reidio tandem fel peilot ar gyfer reidwyr gydag anabledd, roedd yn debygol y buasai wedi cystadlu ar y tandem yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.[3]
Yn 2003, enwebwyd ef ar gyfer gwobrau chwaraeon "BBC Norfolk Sport".[2]
Bu farw yn Ysbyty Prifysgol Norwich ar ôl cael ei daro gan gar tra'n reidio ei feic ar yr A11 ger Wymondham. Carcharwyd y gyrrwr a'i darodd yn mis Ionawr 2007 am bum mlynedd.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tired driver killed top cyclist BBC 5 Ionawr 2007
- ↑ 2.0 2.1 Sports awards: Zak Carr Archifwyd 2003-10-30 yn y Peiriant Wayback BBC 24 Hydref 2003
- ↑ Champion Cyclist, Zak Carr, is killed after being hit by a car[dolen farw] British Cycling 13 Hydref 2005
- ↑ Driver who killed Zak Carr jailed for five years[dolen farw] Cycling Weekly 29 Ionawr 2007
Dolenni allanol
golygu