Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Zhytomyr yw Zhytomyr (Wcreineg: Жито́мир). Saif ar lannau Afon Teteriv, un o lednentydd Afon Dnieper.

Zhytomyr
Eglwys Sant Mihangel yn Stryd Kyivska, Zhytomyr.
Mathdinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth261,624 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 884 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSerhii Sukhomlyn Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGdynia Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirZhytomyr urban hromada Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd65 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr221 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.2544°N 28.6578°E Edit this on Wikidata
Cod post10000–10499 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSerhii Sukhomlyn Edit this on Wikidata
Map

Credir iddi gael ei sefydlu yn y 9g, oes foreuol Rws Kyiv, ar hyd y llwybr masnachol o Lychlyn i Gaergystennin. Ceir y cofnod cyntaf o'r anheddiad ym 1240, pan gafodd ei ysbeilio gan y Tatariaid. Daeth dan reolaeth Uchel Ddugiaeth Lithwania ym 1320 a'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ym 1569. Yn sgil rhaniad Gwlad Pwyl ym 1793, daeth yn ganolfan fasnachol bwysig yn Ymerodraeth Rwsia.

Dinas ddiwydiannol ydyw a leolir mewn ardal amaethyddol, ar hyd y ffordd a'r rheilffordd rhwng Korosten i'r gogledd a Berdychiv i'r de, a'r ffordd rhwng Novohrad-Volynskyi i'r gorllewin a'r brifddinas Kyiv i'w dwyrain. Mae'r diwydiannau yn cynnwys melinau coed, llindai, trin bwydydd, chwareli gwenithfaen, gweithfeydd metel, a chynhyrchu offerynnau cerdd, yn enwedig acordionau.

Gostyngodd y boblogaeth o 292,000 ym 1989[1] i 284,000 yn 2001,[2] ac i 264,000 yn 2021.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Zhytomyr", The Columbia Encyclopedia. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 18 Tachwedd 2-22.
  2. (Saesneg) Zhytomyr. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.