Dinas hanesyddol yn oblast (rhanbarth) Zhytomyr yng ngogledd Wcráin yw Korosten (Wcreineg a Rwsieg Коростень / Korosten). Saif ar Afon Uzh. Ei phoblogaeth yw 66,300 (amcangyfrif 1 Ionawr 2005). Mae chwareli ithfaen yn agos i'r ddinas, a ffatri borslen yn y ddinas ei hun.

Korosten
Mathdinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin Edit this on Wikidata
Poblogaeth61,496 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Anenii Noi, Mazyr, Noyabrsk, Kłobuck, Svitlovodsk, Kraśnik, Charvieu-Chavagneux, Sloviansk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKorosten Raion, Korosten City Council, Korosten Raion Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd33.851 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr171 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Uzh Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.95°N 28.65°E Edit this on Wikidata
Cod post11500–11519 Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Credir i'r ddinas gael ei sefydlu yn yr wythfed ganrif. Cynhaliwyd dathliadau swyddogol ei miltrichanmlwyddiant yn 2005. Mae'r cyfeiriad cyntaf ati yn dyddio i'r flwyddyn 914. Y pryd hynny, ei henw oedd Iskorosten. Prifddinas y Drevlyane oedd hi, un o lwythi'r Slafiaid Dwyreiniol. Llosgwyd y ddinas i'r llawr gan Olga, Tywysoges Kiev yn 945, yn ddial am i'r Drevlyane laddu ei gŵr Igor. Wedi hynny, daeth Korosten yn rhan o Dywysogaeth Kiev.

Goresgynnwyd y ddinas a'i distrywio gan y Mongoliaid ym 1240, ac o 1370 roedd yn rhan o Lithwania, wedyn Gwlad Pwyl. Rhoddwyd siarter dinas iddi yn 1589. Yn 1795, fe'i meddiannwyd gan Ymerodraeth Rwsia. Roedd yn ddinas ranbarthol ddibwys yn ystod y 19g. Cynyddodd ei statws ar ôl 1902, pryd adeiladwyd gorsaf reilffordd, a phryd cafodd y ddinas ei hailenw gyda'i henw presennol Korosten.

Distrywiwyd y ddinas yn llwyr yn yr Ail Ryfel Byd, ac effeithwyd yn ddifrifol arni gan gyflafan niwclear Chernobyl yn 1986.

Cyfeiriadau golygu