Pobloedd Tyrcig sydd yn disgyn o nomadiaid a ymfudodd o Siberia i Ganolbarth Rwsia yw'r Tatariaid. Yn hanesyddol Tatar oedd yr enw cyffredinol gan Ewropeaid ar y llwythau Mongolaidd a Thyrcig a oresgynasant Ddwyrain Ewrop yn ystod y 13g, ac yn ddiweddarach neilltuwyd ei ystyr i'r rhai a chawsant eu Tyrceiddio a'u Hislameiddio. Bellach, mae Tatariaid yn cyfeirio at yr amryw grwpiau ethnig Tyrcig sydd yn dwyn yr enw hwnnw—Tatariaid y Volga, Tatariaid y Crimea, a Thatariaid Siberia—yn hytrach nag hil neu deulu o grwpiau ethnig penodol. Yn yr 21g mae rhyw 5 miliwn o Datariaid sydd yn byw yn bennaf yng ngorllewin canolbarth Rwsia, ar hyd ganol Afon Volga a'i llednant, Afon Kama, ac i'r dwyrain oddi yno hyd at Fynyddoedd yr Wral. Lleolir cymunedau o Datariaid hefyd yng Nghasachstan ac yng ngorllewin Siberia.[1] Maent yn siarad ieithoedd o'r gangen Kipchak yn bennaf, sef Tatareg a Thatareg y Crimea.

Tatariaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathPobl Twrcaidd Edit this on Wikidata
MamiaithTatareg, rwseg edit this on wikidata
Poblogaeth6,421,500 Edit this on Wikidata
CrefyddSwnni, eglwysi uniongred edit this on wikidata
Rhan oieithoedd Ciptshac, Kipchak–Bulgar, Pobl Twrcaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTatariaid y Volga, Tatariaid Siberia, Tatariaid Astrakhan, Tatariaid Lipka, Crimean Tatars Edit this on Wikidata
Enw brodorolтатарлар Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnyddiwyd yr enw yn gyntaf i gyfeirio at y llwythau nomadaidd, o dras Rouran o bosib, a drigasant yn nwyrain Llwyfandir Mongolia, ar lannau Llyn Baikal, ers y 5g. Siaradant iaith Dyrcaidd, yn wahanol i ieithoedd Mongolaidd y llwythau cyfagos, y Mongolwyr. Ffurfiasant gydffederasiwn y Naw Tatar o'r 8g i'r 12g, ac mae'n bosib yr oeddynt yn perthyn i'r bobloedd Cuman a Kipchak a oedd yn ffurfio cydffederasiwn arall i'r gorllewin. Yn sgil goresgyniadau'r Mongolwyr dan Genghis Khan yn nechrau'r 13g, bu cymysgu diwylliannol ac ethnig i raddau helaeth rhwng yr amryw bobloedd Fongolaidd a Thyrcig, a chawsant i gyd eu hadnabod gan yr enw Tatariaid gan yr Ewropeaid. Wedi chwalu yr Ymerodraeth Fongolaidd yn niwedd y 13g, bu enw'r Tatariaid yn gysylltiedig yn bennaf â'r Llu Euraid yng Nghanolbarth Asia a de Rwsia. Trodd y rheiny yn Fwslimiaid Swnni yn ystod y 14g a daeth yr elfen Dyrcig o'u diwylliant yn drech na'r etifeddiaeth Fongolaidd. Yn sgil cwymp y Llu Euraid yn niwedd y 14g, sefydlwyd chanaethau yn Kazan ac Astrakhan ar lannau Afon Volga, Sibir yng ngorllewin Siberia, a'r Crimea gan y Tatariaid. Gorchfygwyd Kazan, Astrakhan, a Sibir gan Tsaraeth Rwsia yn ystod ail hanner yr 16g. Bu'r Crimea yn wladwriaeth gaeth i'r Ymerodraeth Otomanaidd nes iddi gael ei chyfeddiannu gan Ymerodraeth Rwsia ym 1783.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Tatar (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Mai 2021.