Zoë Heller
Nofelydd Seisnig yw Zoë Heller (ganwyd 7 Gorffennaf 1965) sy'n gweithio o ddydd i ddydd fel newyddiadurwr. Hyd at 2019 roedd wedi cyhoeddi tair nofel: Everything You Know (1999), Notes on a Scandal (2003), a The Believers (2008). Rhoddwyd Notes on a Scandal ar restr fer Gwobr Man Booker a'i haddasu'n ffilm yn 2006.
Zoë Heller | |
---|---|
Ganwyd | 7 Gorffennaf 1965 St Pancras |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, nofelydd, llenor |
Tad | Lukas Heller |
Yn 2007, priododd y sgriptiwr Lawrence Konner mewn seremoni Iddewig "minimal" ond yn 2010, gwahanodd y ddau. Yn 2019 roedd Heller yn byw yn Ninas Efrog Newydd gyda'i dwy ferch, Lula a Frankie.
Teulu
golyguGaned Zoë Kate Hinde Heller yn St Pancras, Llundain. Hi oedd yr ieuengaf o bedwar o blant Caroline (née Carter) a Lukas Heller, ysgrifennydd sgrîn llwyddiannus. Roedd ei thad yn fewnfudwr Iddewig o'r Almaen a'i mam yn Saesnes ac yn Grynwr.[1][2][3] Ei thaid, ar ochr ei thad, oedd yr athronydd gwleidyddol Hermann Heller.[4][5][6][7]
Ei brawd yw'r sgwennwr-sgrin Bruno Heller. Wedi gadael Haverstock School yng ngogledd Llundain aeth Heller i Goleg y Santes Ann, Rhydychen lle bu'n astudio Saesneg, ac yna i Brifysgol Columbia, Efrog Newydd lle derbyniodd M.A. yn 1988.
Gyrfa
golyguDechreuodd Heller ei gyrfa mewn newyddiaduraeth, fel awdur nodwedd ar gyfer yr Independent on Sunday yn y DU. Dychwelodd i Efrog Newydd yn ddiweddarach i ysgrifennu yn y cylchgrawn Vanity Fair ac yna The New Yorker. Ysgrifennodd golofn wythnosol ar gyfer cylchgrawn y Sunday Times yn y DU, ac roedd yn golofnydd rheolaidd i'r Daily Telegraph.[8] Enillodd am y gwaith hwn wobr "Colofnydd y Flwyddyn" gan Wobrau'r Wasg Brydeinig yn 2002. Cyd-ysgrifennodd y sgript ffilm ar gyfer ffilm annibynnol 1991, 'Twenty-One'.[9]
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Philippe Naughton (28 Mawrth 2012). "UK News, World News and Opinion". Timesplus.co.uk. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012.
- ↑ "Two giants of literature — and one big question". The Jewish Chronicle. 24 Mehefin 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-24. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012.
- ↑ Cohen, Patricia (26 Chwefror 2009). "Not Much Sympathy for Zoë Heller's Characters, but a Little Understanding". The New York Times.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 16 Hydref 2015. "Zoe Heller". "Zoë Heller".
- ↑ "WEDDINGS; Miranda Cowley And Bruno Heller". New York Times. Mehefin 20, 1993.
- ↑ "Zoe Heller". British Council. Cyrchwyd 20 Mawrth 2016.
- ↑ Birnbaum, Robert (29 Gorffennaf 2004). "Zoe Heller". The Morning News. Cyrchwyd 20 Mawrth 2016. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help)