Zog, brenin Albania

Roedd Zog, enw bedydd Ahmed Beg Zogolli (8 Hydref 18959 Ebrill 1961), yn frenin ar Albania (Albaneg: Nalt Madhnija e Tij Zogu I, Mbreti i Shqiptarëvet‎), o 1928 hyd 1939.

Zog, brenin Albania
Ganwyd8 Hydref 1895 Edit this on Wikidata
Burgajet Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1961 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Suresnes Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Otomanaidd, Independent Albania, Principality of Albania, Albanian Republic, Albanian Kingdom, Albania Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Galatasaray High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Albania, Arlywydd Albania, King of Albania, Prif Weinidog Albania Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr Edit this on Wikidata
TadXhemal Pasha Zogu Edit this on Wikidata
MamSadije Toptani Edit this on Wikidata
PriodGéraldine Apponyi de Nagyappony Edit this on Wikidata
PartnerTania Visirova Edit this on Wikidata
PlantLeka, Crown Prince of Albania Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Zogu Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommander's Cross of the Order of Franz Joseph, Order of Skanderbeg, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Urdd Llew Aur Llinach Nassau, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Carol I, Nishan Mohamed Ali, Urdd y Gwaredwr, Urdd Sant Steffan o Hwngari Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd Zog ei ddatgan yn frenin ar ôl bod yn brifweinidog ei wlad rhwng 1922 a 1924 a'i harlywydd rhwng 1925 a 1928.

Yn ystod ei deyrnasiad gadawodd i Albania syrthio dan ddominyddiaeth economaidd yr Eidal. Pan oresgynwyd y wlad gan Benito Mussolini yn 1939 ffoes Zog i alltudiaeth.

Blynyddoedd Cynnar

golygu

Fe'i ganed yn Albania ar 8 Hydref 1895 fel dinesydd Otomanaidd ac roedd yn ddisgynnydd gan deulu cyfoethog o dirfeddianwyr. Ei enw cyffredin oedd Ahmed Zongolli, a newidiwyd i Zogu yn 1922 (sy'n golygu aderyn yn Albaneg). Yn 9 oed fe'i hanfonwyd i Istanbul ar gyfer astudiaethau yn y Sultan Lyceum, a elwir yn Ysgol Uwchradd Galatasaray. Yna parhaodd ei astudiaethau yn yr Ysgol Filwrol Otomanaidd yn Monastir. Ym 1912, gyda chychwyn y Rhyfeloedd Balcan, dychwelodd i Albania a chymerodd drosodd arweinyddiaeth ei lwyth, y Mat (ardl sydd ynghannol Albania, ychydig i'r gogledd a enwir ar ôl afon i'r un enw) wedi i'r dad farw yn 1911.

Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe'i saflewyd yn y fyddin Awstria-Hwngari, a oedd yn perthyn i'r Pwerau Canolog ac yn ymladd â lluoedd yr Entente. Yn wreiddiol, fe'i gosodwyd yn Fienna yn 1917-1918 ac yn ddiweddarach yn Rhufain, 1918-1919. Yn 1919 dychwelodd i Albania lle dechreuodd ymwneud gyda'r gwrthdaro gwleidyddol oedd yn y wlad.

Gwleidyddiaeth Cynnar

golygu

O fis Ionawr ac yn swyddogol o fis Mawrth i fis Tachwedd 1920, cymerodd drosodd y Gweinidog Cartref gan drefnu gwrthwynebiad Albanaidd yn erbyn ymosodiadau Iwgoslafia. Y flwyddyn ganlynol (1921) cafodd ei enwi'n bennaeth heddluoedd arfog Albaniaidd. Yn 1922, ailetholwyd yn Weinidog Cartref. Yn yr un flwyddyn (1922) bu'n Brif Weinidog, ond fe'i ddiorseddwyd gan garfan o 'bey' (arglwyddi) o dan arweiniad prif gelyn Zogu, Fan Noli. Dihangodd Zogu i Iwgoslafia. Yn 1924, ar ôl ymgais o lofruddio, gdychwelodd drwy rym milwrol ac ar 21 Ionawr 1925, fe'i hetholir yn llywydd gweriniaeth Albania. Aeth ati i geisio greu llywodraeth 'orllewinol' ei safonau rhwng 1925-1932. Yn 1922, newidiodd Zogolli ei gyfenw yn ffurfiol o'r enw Zogolli i Zogu, sy'n swnio'n llai Twrceg a mwy Albaneg.[1]

Brenin yr Albaniaid

golygu
 
Königliches Monogram

Ar 25 Mehefin 1928 daeth Zogu â'r Weriniaeth i ben ac ar 1 Medi 1928 datganodd ei hun yn frenin cyntaf Albania gan greu cyfansoddiad o frenhiniaeth absoliwt dros bolisi cartref a thramor y wlad. Newidiodd Arlywydydd Zogu i Zog I, Brenin yr Albaniaid (Mbret i Shqiptarëve yn Albaneg) gan gydnabod bod Albaniaid yn byw y tu allan i'r wladwrieth a chydnabod dyhead Albania Fawr. Mabwysiadodd yr enw Zog fel ei enw brenhinol yn hytrach na'i enw cyntaf Ahmed, gan iddo gredu y byddai enw Mwslemaidd yn ei ddieithrio oddi ar y llwyfan Ewropeaidd. Cymeroedd hefyd yr enw cyfochrog, Skanderbeg III, fel ymgais i ymygyslltu ei hun â'r arwr ac arweinydd Albanaidd o'r Oesoedd Canol, Skanderbeg.

Er bod Zogu yn ddeallus ac yn egnïol iawn, gall fod yn ddiffygiol ym maes diplomyddiaeth a'r chrefftwaith (a thwyll) ac yn naif wrth greu yr hyn a ddywedwyd iddo gan wleiyddion tramor. Achosodd y diffyg profiad tramor hyn i annibyniaeth ei wlad gael ei thanseilio.

Ymddieithiodd ei hun oddi wrth y gwledydd cyfagos gan ymgysylltu ei hun yn agos â'r Eidal ffasgaidd gan gredu ei haddewidion Eidalaidd. Arwyddodd gyfres o gytundebau economaidd, milwrol a hyd yn oed gwleidyddol, ac roedd yn llythrennol yn ymgorffori wlad i'r Eidal.

Tanseiliwyd Zog ymhellach gan na chafodd gydnabyddiaeth fel brenin cyfansoddiadol gan deuluoedd brenhinol eraill Ewrop. Er mwyn goresgyn y rhwystr hwn, ceisiodd briodi gydag aelod o deulu nobel o fewn Ewrop. Ar ôl nifer o sawl ymgais aflwyddiannus, priododd y Countess Geraldini, o dŷ Hwngareg y Karolyi ym mis Ebrill 1939. Gydaf hyn gallodd alw ei hun yn Dywysog Skender ar 5 Ebrill, 1939. Ond, er gwaethaf cysylltu â'r teuluoedd brenhinol, aflwyddiannus bu ymgais Zog i gael ei gydnabod yn frenin gan lywodraethau'r Gorllewin.

Pan ystyriodd yr Eidal yr amser yn ymarferol, penderfynwyd ymosod ar Zog ac Albania. Felly, ar 7 Ebrill 1939, ddau ddiwrnod ar ôl genedigaeth Leka, olynydd y orsedd Albanaidd, glaniodd milwyr Eidalaidd yn Albania gan ddi-orseddu Zogo. Cynigiodd Unben yr Eidal, Benito Mussolini, goron Albania i Frenin yr Eidal, Vittorio Emanuele III.

Achosodd ymosodiad yr Eidal ar y wladwriaeth Albaniaidd gyd-ymdeimlad byd-eang i Zog ac Albaniad. Apeliwyd ac gydymdeimlad pobl gan y ffaith i'r Eidal ymosod ar ddydd Gwener y Groglitha bod y Frenhines Geralini wedi gorfod ffoi o'r wlad gyda' baban deuddydd oed yn ei breichiau.

Dihangodd Zog a'i deulu yn gyntaf i Wlad Greog lle cawsant loches gan lywodraeth Metaxas. Oddi yno, aethant mewn llong i Loegr ac yna i Baris yn gofyn i gynghreiriaid am gymorth milwrol i'w gwlad. Ond gyda meddiannaeth Paris gan yr Almaenwyr, ffodd y teulu brenhinol Albania i Alexandria ac oddi yno i Dde Affrica.

Ar diwedd yr Ail Ryfel Byd, ym 1946, pan drosglwyddwyd Albania yn gyfundrefn gomiwnyddol, cafodd Zogu ei ddiorseddi'n swyddogol. Yn fuan wedi i Zog symud yn barhaol i Ffrainc lle y bu farw ar 9 Ebrill o 1961 yn 66 oed.

Delweddau

golygu
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Arlywydd Albania
1 Chwefror, 19251 Medi, 1928
Olynydd:
dim
(o 1944 Omer Nishani)
Rhagflaenydd:
William
(fel Tywysog Albania)
Brenin Albania
1 Medi 19287 Ebrill 1939
Olynydd:
Vittorio Emanuele III
(meddiannaeth Eidalaidd)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Balázs Trencsényi; Michal Kopeček (2006). Discourses of collective identity in Central and Southeast Europe (1770–1945): texts and commentaries. Central European University Press. t. 177. ISBN 978-963-7326-61-5. Cyrchwyd 23 January 2013. Ahmet Zogu (who had changed his name from the Turkish sounding 'Zogolli' to the more Albanian sounding 'Zogu')