Zsa Zsa Gabor

actores

Actores Hwngaraidd-Americanaidd ydy Zsa Zsa Gabor (yn Hwngareg Gábor Zsazsa; 6 Chwefror 191718 Rhagfyr 2016).[1][2] Actiodd ar lwyfan yn Fienna, Awstria, pan oedd yn 15 oed, a chafodd ei choroni'n Miss Hwngari ym 1936 pan oedd yn 19 oed.[3] Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1941 a bu'n hynod boblogaidd oherwydd ei bod ganddi "steil a doniau Ewropeaidd", a phersonoliaeth a oedd yn "gorlifo â chyfaredd ac urddas".[4]

Zsa Zsa Gabor
GanwydGábor Sári Edit this on Wikidata
6 Chwefror 1917 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 2016 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria-Hwngari, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, cymdeithaswr, actor llwyfan, actor teledu, ymgeisydd mewn cystadleuaeth modelu, actor Edit this on Wikidata
TadVilmos Gábor Edit this on Wikidata
MamJolie Gabor Edit this on Wikidata
PriodBurhan Belge, Conrad Hilton, George Sanders, Herbert Hutner, Joshua S. Cosden, Jr., Jack Ryan, Michael O'Hara, Frédéric Prinz von Anhalt Edit this on Wikidata
PlantFrancesca Hilton Edit this on Wikidata
Gwobr/auGolden Globes, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Ei rôl gyntaf mewn ffilm oedd fel actores gefnogol yn Lovely to Look At yn serennu Red Skelton. Yn ddiweddarach actiodd yn We're Not Married gyda Ginger Rogers a Marilyn Monroe. Chwaraeodd ei phrif ran am y tro cyntaf yn Moulin Rouge (1952), a gyfarwyddwyd gan John Huston. Disgrifiodd ef hi fel actores "gredadwy".[5] Yn ogystal â'i pherfformiadau ffilm a theledu, mae'n enwog am briodi naw gwaith, gan gynnwys perchennog y cwmni gwestai enwog Conrad Hilton a'r actor George Sanders. Dywedodd un tro, "Mae dynion wastad wedi fy hoffi a dw i wastad wedi hoffi dynion. Ond dw i'n hoffi dynion go iawn, dyn sy'n gwybod sut i siarad â a sut i drin menyw–nid dim ond dyn gyda chyhyrau."[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. TV Guide biodata
  2. (Saesneg) Hollywood Legend Zsa Zsa Gabor Dies at 99 (18 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2016.
  3. Hischak, Thomas S. The Oxford Companion to the American Musical: Theatre, Film, and Television, Oxford Univ. Press (2008) p. 271
  4. Barris, George. Barris Cars of the Stars, MBI Publishing (2008), p. 71
  5. Huston, John. John Huston: Interviews, Univ. Press of Mississippi (2001) p. 11
  6. "Love Hints from Zsa Zsa", cylchgrawn Life, 15 Hydref, 1951, stori'r clawr