Am y cwmwd o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Perfedd (cwmwd). Gweler hefyd Perfedd (gwahaniaethu).

Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn y Cantref Bychan yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Cwmwd Perfedd. Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.

Gorweddai Cwmwd Perfedd yng nghanol y Cantref Bychan. Ffiniai â chymydau Is Cennen, i'r de, a Hirfryn, i'r gogledd, yn y Cantref Bychan, â chymydau Maenor Deilo a Mallaen i'r gogledd yn y Cantref Mawr, rhan o deyrnas Gŵyr i'r de, a Chantref Mawr Brycheiniog i'r dwyrain.

Gorweddai'r cwmwd rhwng Afon Tywi a'r Mynydd Du. Roedd yn cynnwys Myddfai, safle llys lleol a chartref Meddygon Myddfai

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.