Erthygl am y cwmwd yw hon. Am y bryn gweler Mynydd Mallaen.

Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Mallaen. Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.

Gorweddai cwmwd Mallaen yn rhan ogledd-ddwyreiniol y Cantref Mawr, ar y ffin rhwng y cantref hwnnw â theyrnas Ceredigion a'r Cantref Bychan. Ffiniai â chymydau Caeo a Maenor Deilo yn y Cantref Mawr, â chantref Pennardd i'r gogledd yng Ngheredigion, ac â chwmwd Hirfryn a rhan o Gwmwd Perfedd i'r dwyrain a'r de yn y Cantref Bychan.

Gorweddai ar lan orllewinol Afon Teifi ac roedd yn cynnwys y bryniau isel yng ngogledd Sir Gaerfyrddin heddiw sy'n ymdoddi i fryniau uwch Elerydd.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.