Łukasz Fabiański

Chwaraewr pêl-droed proffesiynol o Wlad Pwyl ydy Łukasz Marek Fabiański (ganed 18 Ebrill 1985). Ar hyn o bryd, mae'n chwarae i West Ham United F.C. a thîm cenedlaethol Gwlad Pwyl. Chwaraeodd dros 150 o gemau i C.P.D. Abertawe rhwng 2014 a 2018.

Łukasz Fabiański
GanwydŁukasz Marek Fabiański Edit this on Wikidata
18 Ebrill 1985 Edit this on Wikidata
Kostrzyn nad Odrą Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra190 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau83 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auPiłka nożna magazine plebiscite, Bene Merito Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auArsenal F.C., Legia Warsaw, Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Pwyl, C.P.D. Dinas Abertawe, Lech Poznań, Legia Warsaw, Poland national under-20 football team, West Ham United F.C. Edit this on Wikidata
Saflegôl-geidwad Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonGwlad Pwyl Edit this on Wikidata

Dechreuodd chwarae pêl-droed yn Legia Warsaw, cyn ymuno ag Arsenal F.C. am £2.1 miliwn yn 2007. Chwaraewr wrth-gefn ydoedd y rhan fwyaf o'r amser ond chwaraeodd pan enillodd y clwb yn rownd derfynol Cwpan FA yn 2014. Pan ddaeth ei gytundeb gydag Arsenal i ben, ymunodd ag Abertawe.

Mae Fabiański wedi cynrychioli ei wlad degau o weithiau a chafoddd ei gynnwys yn y garfan ar gyfer Cwpan FIFA y Byd yn 2006 a 2018 ac yn Ewro 2008 ac Ewro 2016.

Ei yrfa golygu

Dinas Abertawe golygu

Ar 29 Mai 2014, cyhoeddwyd y byddai Fabiański yn ymuno â C.P.D. Abertawe pan fyddai ei gytundeb gydag Arsenal yn dod i ben ar 1 Gorffennaf. Dywedodd am y trosglwyddiad "Y prif reswm des i i Abertawe oedd achos roeddwn eisiau bod y golwr gorau". Chwaraeodd i'r clwb am y tro cyntaf ar 16 Awst, mewn gêm 2–1 yn erbyn Manceinion Unedig yn Old Trafford. Hwn oedd gêm gyntaf y tymor.

Cafodd Fabiański ei ddanfon o'r cae pan gollodd Abertawe yn erbyn West Ham United F.C. pan gafodd garden coch. Collodd yr Elyrch o 3 gol i 1.

Ar 6 Gorffennaf 2015, arwyddodd Fabiański gytundeb pedair blynedd newydd gydag Abertawe, a fydd yn ei gadw gyda'r clwb tan Fehefin 2019.