Manchester United F.C.
Tîm pêl-droed o Fanceinion, Lloegr yw Manchester United Football Club (Clwb Pêl-droed Manceinion Unedig) sef tîm pêl-droed mwyaf llwyddiannus Uwchgynghrair Lloegr ac un o dimau pêl-droed mwyaf poblogaidd yn y byd.
Enw llawn | Manchester United Football Club (Clwb Pêl-droed Manceinion Unedig) | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | The Red Devils[1] | |||
Sefydlwyd | (fel Newton Heath LYR F.C.) Newid enw yn 1902 i Manchester United F.C. | |||
Maes | Old Trafford (sy'n dal: 74,140[2]) | |||
Perchennog | Manchester United plc (NYSE: MANU) | |||
Cyd-Gadeiryddion | Joel a Avram Glazer | |||
Cynghrair | Premier League | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
| ||||
Tymor cyfredol |
Mae'r tîm yn chwarae yn stadiwm Old Trafford yng nghanol y ddinas, stadiwm sy'n dal 75,635 .o gefnogwyr[3].
Mae nifer yn mynnu mai Manchester United hefyd yw clwb pêl-droed mwyaf poblogaidd y byd, gyda dros 75 miliwn o gefnogwyr ledled y byd a thros 200 clwb cefnogi swyddogol.[4] Dywed eraill fody niferoedd yn nes at 333 miliwn.[5] Roedd y clwb yn un o'r clybiau wnaeth sefydlu Uwchgynghrair Lloegr yn 1992, ac mae wedi chwarae yng nghynghrair uchaf Lloegr ers 1975. Mae cyfartaledd tyrfaoedd y clwb yn flynyddol uwch nag unrhyw glwb arall yn Lloegr, heblaw am chwe thymor yn unig ers 1964/65.[6]
Mae Manchester United wedi ennill Cwpan Lloegr 12 o weithiau, Uwchgynghrair Lloegr ddeg gwaith, Cwpan Cynghrair Lloegr ddwywaith, Cwpan UEFA unwaith a Chwpan Ewrop dair gwaith.
Y clwb yw'r ail clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Lloegr tu ol i Lerpwl; mae wedi ennill 20 o dlysau ers i Alex Ferguson gael ei benodi'n rheolwr ym Mis Tachwedd 1986. Maen nhw wedi ennill prif gynghrair Lloegr 20 o weithiau. Ym 1968 daethant y tîm cyntaf o Loegr i ennill cwpan Ewrop, drwy guro S.L. Benfica 4-1. Enillon nhw ail gwpan Ewrop ym 1999 fel rhan o'r trebl, cyn ennill eu trydydd cwpan yn 2008, bron 40 mlynedd i'r diwrnod ers ennill am y tro cyntaf.
Ers diwedd y 90au mae'r clwb wedi bod yn un o'r rhai mwyaf cyfoethog yn y byd, yn bennaf oherwydd ei berchennog Martin Edwards, gyda'r incwm mwyaf o unrhyw dîm pêl-droed, ac ar hyn o bryd y clwb mwyaf cyfoethog mewn pêl-droed a hefyd mewn unrhyw gamp gyda gwerth o £897 miliwn yn Mai 2008. Roedd y clwb yn un o aelodau gwreiddiol G-14 sef grwp o dimau gorau Ewrop ac erbyn hyn mae'n rhan o'r European Club Association.
Capten presennol y clwb yw Ashley Young a olynodd Antonio Valencia yn 2019.
Hanes
golyguY blynyddoedd cynnar
golyguFfurfiwyd clwb Newton Heath LYR F.C. ym 1878 fel clwb gwaith y Lancashire and Yorkshire Railway Depot yn Newton Heath. Roedd crysau'r clwb yn haner gwyrdd a hanner aur. Roedd y clwb yn chwarae ar gae bychan, gwael ar North Road am bymtheg mlynedd cyn symud i Bank Street yn nhref gyfagos Clayton yn 1893. Cafodd y clwb fynediad i'r gynghrair ym 1892 a dechrewyd y broses o wahanu oddi wrth y rheilffordd gan ddod yn glwb annibynnol, penodi ysgrifennydd i'r clwb a galw eu hunain yn 'Newton Heath F.C'. Ym 1902 roedd y clwb o fewn dim i fod yn fethdalwyr gyda dyledion o dros £2,500. Ar un adeg cafodd eu stadiwm yn Bank Street ei gau.
Cyn cael eu cau am byth cafodd y clwb arian gan J.H Davies, perchennog bragdai ym Maenceinion.
Blynyddoedd Busby 1948-1969
golyguCymrodd Matt Busby drosodd fel rheolwr yn Hydref 1945. Roedd Busby eisiau rheoli pwy oedd yn y tîm, prynu chwaraewyr newydd a sesiynau ymarfer. Ym 1952 enillodd y clwb yr uwchgynghrair, ei gwpan cynghrair cyntaf mewn 41 mlynedd. Gydag oedran cyfartalog o 22 cawsant eu galw gan y cyfryngau'n 'Busby Babes'. Ym 1957 Manchester United oedd y tîm Saesneg cyntaf i gystadlu yn y Cwpan Ewropaidd. Er gwrthwynebiadau cynghrair Lloegr, aeth Manchester United ymlaen i gyrraedd y rownd gyn-derfynol, lle collon nhw i Real Madrid. Sgoriodd y tîm 10-0 yn erbyn Anderlecht, y sgor uchaf yn y gystadleuaeth.
Y tymor wedyn, daeth yn un o wyth tîm olaf y Gwpan Ewropaidd yn erbyn Seren Coch Belgrade. Ar y ffordd, ar y 6ed o Chwefror 1958, cafodd yr awyren a gludai'r tîm ddamwain a lladdwyd 23 o bobl gan gynnwys wyth chwaraewr: - Geoff Bent, Roger Byrne, Eddie Colman, Duncan Edwards, Mark Jones, David Pegg, Tommy Taylor a Billy Whelan.
Cymrodd Jimmy Murphy, rheolwr yr eilyddion drosodd gan weithredu fel rheolwr llawn amser. Chwareodd yr eilyddion yn y tîm cyntaf a llwyddon nhw i gyrraedd rownd derfynol y cwpan FA, lle collon nhw i Bolton Wanderers. Fel cydnabyddiaeth o drasiedi'r tim, gwahoddodd UEFA'r tîm i gymryd rhan yng Nghwpan Ewropaidd 1958-59 gyda phencampwyr Lloegr Wolverhampton Wanderers.
Ailadeiladodd Busby'r tîm trwy'r 60au, gan brynu chwaraewyr fel Denis Law a Paddy Crerand, ac unodd y rhain gyda gyda'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr ifanc yn cynnwys George Best i ennill y cwpan FA ym 1963. Y tymor dilynol gorffenon nhw'n ail yn y gynghrair, ac enillwyd y gynghrair ei hun ym 1965 a 1967. Ym 1968 Manchester United oedd y tîm cyntaf i ennill y cwpan Ewropaidd gan feuddu Benfica 4-1 yn y rownd derfynol a hynny gyda thîm a oedd yn cynnwys tri chwaraewyr Ewropeaidd y flwyddyn: Bobby Charlton, Denis Law a George Best. Gorffenodd Matt Busby fel arweinydd ym 1969 a chafodd ei ddisodli gan eolwrr yr eilyddion Wilf McGuiness.
Y newid: 1969-1992
golyguAr ôl gorffen yn wythfed yn 1969-70 a dechreuad wael i 1970-1971, cafodd Busby ei berswadio i ddod yn ôl fel arweinwr ac aeth McGuiness yn ôl i arwain yr ailyddion. Ym Mehefin 1971 daeth Frank O'Farrel yn arweinwr, ond arhosodd ond 18 mis cyn cael ei ddisodli gan Tommy Docherty yn Rhagfyr 1972. Roedd Dochert wedi arbed Manchester United o fynd i lawr y tymor yna, ond iddyn nhw fynd i'r ail gynghrair ym 1974; erbyn hyn roedd Best, Law a Charlton wedi gadael y clwb. Aeth y clwb lan ar ei tro cyntaf a llwyddon nhw gyrraedd rownd derfynol y cwpan FA yn 1976, ond collon nhw i Southampton. Cyrhaeddon nhw'r rownd derfynol eto yn 1977, yn maeddu Lerpwl 2-1. Cafodd Docherty ei sacio yn gynt ar ôl hyn oherwydd cafodd ef berthynas eto gwraig y ffisiotherapydd.
Daeth Dave Sexton yn haf 1977 ac ond am prynu chwaraewyr mawr yn cynnwys Joe Jordan, Gary Bailey, Gordon McQueen a Ray Wilkins, ni lwyddodd y tîm i gael unrhyw ganlyniadau mawr; gorffenon nhw yn y ddwy cyntaf ym 1979-80 a chollon nhw i'r Arfwyr yn y rownd derfynol y cwpan FA. Cafodd Sexton ei sacio ym 1981, ond am y faith enillodd United y saith gêm olaf lle roedd ef yn arwain. Cafodd ei ddisodli gan Ron Atkinson, a dorrodd y record trosglwyddo i brynu Bryan Robson o West Bromich Albion. O dan Atkinson, enillodd Manchester United y cwpan FA ddwywaith ym mhedair blynedd.
Cyrhaeddodd Alex Ferguson ei gynorthwy-ydd Archie Knox o Aberdeen ar ddiwrnod y cafodd Atkinson ei sacio. Yn nhair tymor gorffenodd ef yn 11fed, 2il a 11fed eto. Roedd Ferguson dan bwysau, gan ei fod yn agos i gael ei sacio roedd ennill yn erbyn Crystal Palace yn rownd derfynol y cwpan FA ym 1990 wedi acheb swydd Ferguson. Y tymor wedyn enillodd Manchester United ei Gwpan Enillwyr y Cwpan cyntaf a chwaraeodd yng Nghwpan Mawr UEFA ym 1991, yn maeddu enillwyr y cwpan Ewropaidd, Seren Coch Belgrade. Enillodd y tîm y Cwpan Cynghrair yn 1992 gyda thîm oedd yn cynnwys Ryan Giggs, David Beckham, Paul Scholes, Nicky Butt a'r brodyr Neville. Ym 1993 enillodd y clwb ei gynghrair cyntaf ers 1967, ennillon nhw'r gynghrair eto ym 1994 gyda'r Cwpan FA i gwblhau dwbl cyntaf yn hanes y clwb.
Coron Driphlyg 1999
golyguTymor 1998-99 oedd tymor fwyaf llwddianus unrhyw glwb yn hanes pêl-droed Lloegr; y tîm cyntaf oedden nhw i ennill Uwchgynghrair Lloegr, Cwpan Lloegr a Chyngrair y Pencampwyr – 'Y Goron Driflig'- yn yr un tymor. Ar ei hôl hi o 1-0 yn erbyn Bayern Munich yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, sgoriodd Teddy Sheringham ac Ole Gunner Solskjaer goliau hwyr sicrhau buddugoliaeth dros yr Almaenwyr yn beth sy'n cael ei ystyried gan rai yn un o'r 'Comebacks' gorau yn hanes pêl-droed. Hefyd enillodd y clwb y cwpan cyfandirol ar ôl maeddu Palmeiras 1-0 yn Tokyo. Ar ôl yr holl ddigwyddiadau hyn cafodd Ferguson ei wneud yn farchog am ei gyfraniad i bêl-droed.
Llwyddiant yn yr unfed ganrif ar hugain
golyguYn 2000 cymerodd Manchester United rhan yng nghwpan clybiau'r byd ym Mrasil, ac enillodd y gynghrair eto ym 1999-2000 a 2000-2001. Gorffenodd y tîm yn ail i'r Arfwyr yn 2001-02, cyn ennill y gynghrair yn ôl yn 2002. Enillon nhw eu degfed cwpan FA gan faeddu Millwall 3-0 yn y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Yn 2005-2006 ni lwyddodd y tîm i gyrraedd yr 16 olaf - am y tro cyntaf ers degawd, ond yna adenillwyd Cwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Wigan Athletic. Enillodd y clwb Uwchgynghrair Lloegr eto yn 2007 ac yn 2008, a chyflawnodd ddwbl gan faeddu Chelsea â'r cic gosb yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Chwaraeodd Ryan Giggs ei 759ed gêm yn y gêm hon, gan gipio'r record - y trydedd gynghrair yn olynol. Yr haf hwnnw cafodd Cristiano Ronaldo ei werthu i Real Madrid am £80 miliwn. Yn 2010 maeddodd Manchester United Aston Villa gan ennill Cwpan Cynghrair Lloegr.
Carfan Bresennol
golygu- Fel 14 Gorffennaf 2015
- 1 David De Gea
- 2 Rafael
- 3 Luke Shaw
- 4 Phil Jones
- 5 Marcos Rojo
- 6 Jonny Evans
- 7 Ángel Di María
- 8 Juan Mata
- 10 Wayne Rooney
- 11 Adnan Januzaj
- 12 Chris Smalling
- 13 Anders Lindegaard
- 14 Javier Hernández
- 16 Michael Carrick
- 17 Daley Blind
- 18 Ashley Young
- 20 Robin van Persie
- 21 Ander Herrera
- 22 Nick Powell
- 25 Antonio Valencia
- 30 Guillermo Varela
- 31 Marouane Fellaini
- 32 Víctor Valdés
- 33 Paddy McNair
- 35 Jesse Lingard
- 41 Reece James
- 42 Tyler Blackett
- 44 Andreas Pereira
- 48 Will Keane
- 49 James Wilson
- 50 Sam Johnstone
- -- Memphis Depay
- -- Bastian Schweinsteiger
- -- Matteo Darmian
- -- Morgan Schneiderlin
Rheolwyr
golyguDates[7] | Name | Notes |
---|---|---|
1878–1892 | Unknown | |
1892–1900 | A. H. Albut | |
1900–1903 | James West | |
1903–1912 | Ernest Mangnall | |
1912–1914 | John Bentley | |
1914–1922 | Jack Robson | |
1922–1926 | John Chapman | |
1926–1927 | Lal Hilditch | Rheolwr-chwaraewr |
1927–1931 | Herbert Bamlett | |
1931–1932 | Walter Crickmer | |
1932–1937 | Scott Duncan | |
1937–1945 | Walter Crickmer | |
1945–1969 | Matt Busby | |
1969–1970 | Wilf McGuinness | |
1970–1971 | Matt Busby | |
1971–1972 | Frank O'Farrell | |
1972–1977 | Tommy Docherty | |
1977–1981 | Dave Sexton | |
1981–1986 | Ron Atkinson | |
1986–2013 | Alex Ferguson | |
2013–2014 | David Moyes | |
2014 | Ryan Giggs | Rheolwr-chwaraewr mewn gofal |
2014–2016 | Louis van Gaal |
Esblygiad dillad y sgwad cyntaf
golygu- Notes
Chwaraewyr
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Manchester United Football Club". premierleague.com. Premier League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-15. Cyrchwyd 9 Mehefin 2012.
- ↑ "Manchester United - Stadium" (PDF). premierleague.com. Premier League. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-01-31. Cyrchwyd 12 Awst 2013.
- ↑ "Manchester United - Stadium" (PDF). premierleague.com. Premier League. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-08-20. Cyrchwyd 29 Awst 2014.
- ↑ Hamil (2008), p. 126.
- ↑ Cass, Bob (15 Rhagfyr 2007). "United moving down south as fanbase reaches 333 million". Daily Mail. London: Associated Newspapers. Cyrchwyd 20 Mehefin 2010.
- ↑ Rice, Simon (6 Tachwedd 2009). "Manchester United top of the 25 best supported clubs in Europe". The Independent. London: Independent Print. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-19. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2009.
- ↑ Barnes et al. (2001), pp. 54–57.