Old Trafford
Stadiwm pêl-droed ym mwrdeistref Trafford ym Manceinion Fwyaf, Lloegr, yw Old Trafford sy'n gartref i glwb Uwch Gynghrair Manchester United. Gyda lle i 75,635 o wylwyr[1]; Old Trafford yw'r stadiwm ail fwyaf (ar ôl Stadiwm Wembley) yn y Deyrnas Unedig, a'r nawfed fwyaf yn Ewrop. Bedyddiwyd y lle'n 'Theatr Breuddwydion' gan Bobby Charlton.
Delwedd:Old Traford.jpg, Manchester United Old Trafford.jpg | |
Math | stadiwm pêl-droed |
---|---|
Agoriad swyddogol | 19 Chwefror 1910 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Old Trafford |
Sir | Bwrdeistref Fetropolitan Trafford, Manceinion, Lloegr |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 53.4631°N 2.2914°W |
Rheolir gan | Manchester United F.C. |
Perchnogaeth | Manchester United F.C. |
Ailenwyd eisteddle United Road ac Eisteddle'r Gogledd yn the Sir Alex Ferguson Stand i gofio am waith y cynreolwr Sir Alex Ferguson. Fe'i datblygwyd yn 1996 o un llawr i fod yn eisteddle teirllawr sy'n dal 26,000 o wylwyr - y mwyaf yn Old Trafford. Ceir yma hefyd nifer o flychau gwylio dethol a chyfres o ystafelloedd croeso.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Manchester United - Stadium" (PDF). premierleague.com. Premier League. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-08-20. Cyrchwyd 29 Awst 2014.
- ↑ "Executive Club". ManUtd.com. Manchester United. Cyrchwyd 1 August 2011.