Ffilm yn 2008

(Ailgyfeiriad o 2008 mewn ffilm)

Cafodd sawl ffilm newydd eu rhyddhau led-led y byd yn 2008, gan gynnwys nifer o ffilmiau poblogaidd megis Rambo, The Chronicles of Narnia: Prince Caspian, Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull, Hellboy II: The Golden Army, The Dark Knight, The X-Files: I Want to Believe, The Mummy: Tomb of the Dragon Emperor, Star Wars: The Clone Wars, High School Musical 3: Senior Year, Saw V, Quantum of Solace, Madagascar: Escape 2 Africa a The Sisterhood of the Traveling Pants 2.

Ffilm yn 2008
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiadau mewn blwyddyn neu gyfnod amser penodol, erthygl sydd hefyd yn rhestr Edit this on Wikidata
Dyddiad2008 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan2007 in film Edit this on Wikidata
Olynwyd ganFfilm yn 2009 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y ffilmiau a wnaeth fwyaf o arian golygu

Sylwer yn dilyn traddodiad y diwydiant ffilm Saesneg, dyma restr o'r ffilmiau a wnaeth fwyaf o arian ac a gafodd eu rhyddhau gyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 2008. Y deg ffilm uchaf yn 2008, yn ôl cyfanswm crynswth mewn $UDA, yn ogystal â Chanada, y DU ac Awstralia oedd:

Safle yn 2008 Teitl Stiwdio Cyfanswm byd-eang Cyfanswm crynswth UDA/Canada Cyfanswm crynswth y DU Cyfanswm crynswth Awstralia
1 The Dark Knight Warner Bros. $1,001,921,825 $533,345,358 $89,066,002 $39,880,001
2 Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull Paramount $786,636,033 $317,101,119 $79,283,312 $27,981,873
3 Kung Fu Panda DreamWorks $631,908,951 $215,434,591 $39,405,501 $24,764,811
4 Hancock Columbia $624,386,746 $227,946,274 $49,170,891 $19,636,856
5 Mamma Mia! Universal $602,609,487 $144,130,063 $132,342,643 $29,287,466
6 Madagascar: Escape 2 Africa DreamWorks $594,728,447 $180,010,950 $34,437,038 $15,093,421
7 Iron Man Paramount $582,030,528 $318,412,101 $33,822,889 $18,880,106
8 Quantum of Solace MGM / Columbia $575,952,505 $168,368,427 $80,805,643 $20,645,336
9 WALL-E Disney / Pixar $534,767,889 $223,808,164 $41,215,600 $14,165,390
10 The Chronicles of Narnia: Prince Caspian Disney $419,651,413 $141,621,490 $21,581,030 $13,181,570


Daw'r ystadegau hyn o Box Office Mojo, gan gynnwys 2008 Canlyniadau Swyddfa Docynnau Blynyddol.

Yn gyfangwbl, rhyddhawyd pumdeg wyth ffilm a wnaeth fwy na $100 miliwn yn 2008. Roedd deuddeg ffilm wedi gwneud dros $400 miliwn, tra bod The Dark Knight wedi gwneud dros $1 biliwn, gan wneud y ffilm y pedwerydd ffilm mwyaf llwyddiannus yn fasnachol erioed. Ar 4 Awst cyrhaeddodd The Dark Knight cyfanswm crynswth o $400 mewn cyfnod o 18 niwrnod yn unig. Daliwyd y record blaenorol gan Shrek 2, a gyrhaeddodd $400 miliwn mewn 43 niwrnod.[1] Ar 31 Awst, 45 niwrnod ar ôl i'r ffilm gael ei rhyddhau, cyrhaeddodd The Dark Knight $500 miliwn, gan ei gwneud yr ail ffilm erioed ar ôl Titanic i groesi'r trothwy hanner biliwn o ddoleri. Mamma Mia! oedd y ffilm a wnaeth fwyaf o arian erioed yn y Deyrnas Unedig.

Cyfeiriadau golygu

  1. The Dark Knight Breaks $400 Million in Record Time Archifwyd 2008-08-25 yn y Peiriant Wayback.; 5 Awst 2008. Adalwyd 6 Awst 2008