446 CC
blwyddyn
6ed ganrif CC - 5 CC - 4ydd ganrif CC
490au CC 480au CC 470au CC 460au CC 450au CC 440au CC 430au CC 420au CC 410au CC 400au CC 390au CC
Digwyddiadau golygu
- Achaea yn enill annibyniaeth oddi wrth Athen, ac Euboea yn gwrthryfela yn erbyn Athen. Mae Pericles yn arwain byddin i Euboea.
- Megara yn gwrthryfela yn erbyn Athen, a byddin o Sparta dan eu benin Pleistoanax yn dod i Attica i'w chynorthwyo. Wedi trafodaethau, mae'r Spartiaid yn encilio ar yr amod fod Athen yn ildio ei meddiannau ar y tir mawr, ac yn cyfyngu ei hymerodraeth i'r ynysoedd.
- Amheuir fod y Spartiaid wedi eu llwgrwobrwyo gan Pericles, a gorfodir Pleistoanax i ffoi i Arcadia.
- Ducetius, arweinydd y Siculi, trgolion brodorol ynys Sicilia, yn dychwelyd i'r ynys o'i alltudiaeth yn ninas Corinth.
Genedigaethau golygu
- Aristophanes, dramodydd Groegaidd (tua'r dyddiad yma)
- Marcus Furius Camillus, gwladweinydd a milwr Rhufeinig (dyddiad traddodiadol)