Gwladweinydd a chadfridog Athenaidd oedd Pericles, Groeg: Περικλῆς, Lladin: Pericles (490 CC. – 429 CC. Ef oedd prif arweinydd Athen yn ystod ei hoes aur, ac ystyrid ef yn areithiwr heb ei ail.

Pericles, copi Rhufeinig o gerflun gwreiddiol gan Cresilas (Amgueddfa Brydeinig, Llundain).

Ganed Pericles tua 490 CC yn Cholargos, gerllaw Athan, yn fab i. Xanthippos ac Agariste. Yn bymtheg oed, roedd yn un o’r gwragedd a phlant a symudwyd i Ynys Salamis pan gipiwyd Athen gan fyddin Ymerodraeth Persia.

Daeth yn amlwg yng ngwelidyddiaeth Athen fel un o gefnogwyr Ephialtes a’r mudiad democrataidd. Cefnogodd ymgyrch Ephialtes i leihau grym yr Areopagus, ac wedi llofruddiaeth Ephialtes yn 461 CC daeth Pericles yn arweinydd y blaid ddemocrataidd. Rhwng 460 CC a 445 CC etholwyd ef i swydd strategos yn rheolaidd, ac arweiniodd ymgyrchoedd milwrol llwyddiannus yn erbyn Boeotia ac Aegina. Dan ei arweiniad ef, datblygodd Cynghrair Delos i fod yn ymerodraeth Athen. Gwaethygodd y berthynas rhwng Athen a Sparta yn raddol.

Cryfhaodd Pericles ddemocratiaeth yn Athen, a dechreuodd yr arfer o dalu cyflog i’r rhai a ddewisid fel rheithwyr neu i swyddi cyhoeddus eraill, gan ei gwneud yn bosibl i ddinasyddion tlotach wasanaethu, yn hytrach na dim ond y cyfoethogion. Ef oedd prif ysgogydd adeiladu’r Parthenon.

Pan ddechreuodd Rhyfel y Peloponnesos, dadleuai Pericles dros strategaeth o osgoi brwydr a Sparta ar y tir, er bod byddin Spartaidd dan eu brenin Archidamus II yn anrheithio Attica yn rheolaidd, a dibynnu ar y llynges i ennill y rhyfel. Bu farw o’r pla yn 429 CC, wedi i’w feibion, Xanthippos a Paralos, farw o’r pla o’i flaen.