666 (rhif)
Rhif arbennig yn y traddodiad Cristnogol ac mewn Iddewiaeth a ystyrir yn "Rhif y Bwystfil" neu nod y Diafol yw 666. Ceir y cyfeiriad cynharaf ati yn Llyfr y Datguddiad gan Ioan. Mae gan y rhif le amlwg yn yr Ocwlt ac mewn rhai traddodiadau cyfriniol gorllewinol.
Enghraifft o'r canlynol | rhif naturiol, eilrif, rhif triongl, rhif palindromig, rhif Smith, eilrif, repdigit, rhif cyfansawdd, harshad number |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn yr 17g, yn amser Oliver Cromwell a Rhyfeloedd Cartref Lloegr, tynnai'r Pumed Frenhinwyr eu hysbrydoliaeth a'u credo o lenyddiaeth apocolyptaidd y Beibl, ac yn enwedig o Lyfr Daniel a Llyfr y Datguddiad. Credent fod hanes y byd yn ymrannu'n bum cyfnod yn ôl goruchafiaeth pum teyrnas, sef Asyria, Ymerodraeth Persia, Groeg a'r Ymerodraeth Rufeinig: Teyrnas Crist ar y Ddaear fyddai'r bumed a'r olaf. Credent y byddai'n dechrau yn y flwyddyn 1666 (gyda'r 666 yn y dyddiad hwnnw yn cyfateb i "Rif y Bwystfil").