Mae Toni Cipriani yn gymeriad gêm fideo yn y gyfres Grand Theft Auto. Ef yw'r prif gymeriad a ymgorfforir gan y chwaraewr yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories (GTA:LCS), a ryddhawyd yn 2005 ar PlayStation Portable ac yn 2006 ar PlayStation 2. Mae o hefyd yn un o'r brif cymeriadau yn Grand Theft Auto III (GTAIII)[1] a rhyddhawyd ym mis Hydref 2001 ar gyfer PlayStation 2, ym mis Mai 2002 ar gyfer Microsoft Windows, ac ym mis Hydref 2003 ar gyfer yr Xbox. Er bod GTAIII wedi ei gyhoeddi rhai blynyddoedd cyn GTA:LCS, mae stori GTA:LCS wedi ei osod ym 1992 tra fo GTAIII wedi ei osod yn 2001, sy'n golygu bod GTA:LCS yn rhoi hanes Toni cyn ei ymddangosiad yn GTAIII. Yr actor Michael Madsen[2] sy'n lleisio Toni yn Grand Theft Auto III, tra bod Danny Mastrogiorgio[3] yn ei leisio yn Grand Theft Auto: LCS.

Toni Cipriani
Toni yn GTA:Liberty City Stories
GanwydAntonio Cipriani Edit this on Wikidata
1968 Edit this on Wikidata
Liberty City Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethgangster Edit this on Wikidata
OlynyddVictor Vance Edit this on Wikidata
MamMa Cipriani Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Toni Cipriani ym 1968 yn fab i Ma Cipriani. Does dim enw yn cael ei roi ar gyfer ei dad ond mae Ma Cipriani yn son am ei ddewrder fel milwr triw i'r maffia yn aml. Mae hi'n siomedig nad yw Toni cystal dyn ag oedd ei diweddar dad. Mae Ma Cipriani yn dod o Fflorens yn wreiddiol ac yn cadw bwyty Eidalaidd Momma's Ristorante. Roedd ei dad yn dod o Sisili. Yn GTAIII ef yw'r Capo regime (rhaglaw'r pennaeth) un o deuluoedd maffia Liberty City Teulu Leone. Pennaeth y teulu, y Don yw Salvatore Leone. Mae Toni yn byw yn Liberty City.[4]

Ymddangosiad golygu

Yn Liberty City Stories mae gan Toni corff cydnerth, tenau; gyda chroen ysgafn. Mae ganddo lygaid brown a gwallt du, byr. Mae ganddo gysgod angen eillio parhaol, ac ychydig bach o wallt ar frest, y gellir ei weld wrth ddefnyddio gwisgoedd penodol. Ymddengys fod Toni yn eithaf tal, mae'n sylweddol talach na Salvatore a JD O'Toole.

Yn Liberty City Stories mae'r chwaraewr yn gallu newid dillad y prif gymeriad. Gall Toni wisgo hyd at 16 o wahanol wisgoedd, yn amrywio o ddillad achlysurol, siwtiau moethus a hyd yn oed jest ei drons. Dillad rheolaidd Toni yw siaced frown tywyll, trowsus brown golau ac esgidiau du.

Yn GTA III mae ymddangosiad Toni wedi newid yn sylweddol. Er mae dim ond 3 blynedd sydd rhwng y ddwy gêm mae o i weld wedi heneiddio. Mae ganddo wallt brown ysgafn gyda streipiau llwyd yn dechrau ymddangos a chorff llawer brasach a thrymach. Mae o'n gwisgo crys cotwm porffor, a throwsus brown golau.

Tony GTA: LCS (tua 1998) golygu

Yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories Toni yw'r prif gymeriad sy'n cael ei reoli gan y chwaraewr. Mae'r gêm yn adrodd hanes Toni ym 1998, tair blynedd cyn y digwyddiadau yn GTA III.

Ar ddechrau'r gêm mae clip sy'n cyflwyno'r cymeriad yn dychwelyd adre i Liberty City, wedi cyfnod i' ffwrdd o'r ddinas. Roedd wedi mynd yn alltud er mwyn cadw proffil isel ar ôl iddo "cyflawni gweithred fawr" dros deulu Leone[5]. Wedi dychwelyd mae Toni yn canfod bod aelodau eraill y gang wedi dringo'r i safleoedd o bwys yn ei absenoldeb tra ei fod o yn dal i gael ei ystyried fel un o'r troed filwyr sydd dal ar waelod y domen. Mae Salvatore Leone, pennaeth y teulu, yn disgwyl i Toni gweithio fel gwas i Vincenzo Cilli, un o'r dynion sydd wedi dringo'r ystol yn absenoldeb Toni. Dydy o ddim yn hapus efo'r sefyllfa ac mae anghydfod yn codi rhwng Toni a'i bos newydd. Mae toni yn gorfod gwneud tasgau i Vincenzo, sydd yn ei drin o fel baw. Mae o hefyd yn gwneud gwaith uniongyrchol i Salvetore sy'n codi eiddigedd Vincenzo. Un o'r swyddi israddol mae Vincenzo yn rhoi i Toni yw mynd i gasglu ei gar. Wrth fynd i mewn i'r car mae'n canfod bod yr heddlu yn ei wylio gan fod Vincenzo wedi dweud bod wrthynt fod Toni wedi ei ddwyn. Mae toni yn ffoi rhag yr heddlu ac yn distrywio'r car mewn dial. Mae Vincenzo yn denu Toni i ymweld â llong nwyddau yn yr harbwr, lle mae o'n bwriadu ei ladd; ond mae Toni yn ei drechu a Vincenzo sydd yn marw yn y pendraw.

Yn ogystal â gweithio i deulu Leone bydd Toni hefyd yn cael tasgau gan Daniel "JD" O'Toole, syn cadw clwb rhiw; Toshiko Kasen pennaeth y maffia Siapaneaidd; Leon McAffrey heddwas llwgr ac eraill.

Mae llawer o dasgau Toni yn y gêm yn ymwneud a brwydro yn erbyn y gangiau eraill yn y ddinas, yn arbenig y ddau deulu maffia arall Teulu Forelli a Theulu Sindacco. Mae ei lwyddiant yn arwain iddo gael ei urddo yn Uomo compiuto (Dyn o Anrhydedd; Saesneg: Made Man)[6] tua hanner ffordd trwy'r gêm.

Mae Toni yn llofruddio Roger C. Hole, maer y ddinas[7]. Yn yr isetholiad olynol mae o'n ymgyrchu ar ran y biliwnydd Donald Love. O ganfod bod Love ym mhoced teulu Leone mae'r etholwyr yn troi yn ei erbyn ac yn ethol ei wrthwynebydd Miles O'Donovan, dyn sydd ym mhoced Teulu Forelli. Mae'r maer newydd yn sicrhau bod yr heddlu yn arestio Salvatore Leone. Wrth gael ei hebrwng o swyddfa'r heddlu i'r carchar mae Toni yn ei helpu i dorri'n rhydd. Mae Toni a Salvatore yn mynd i weld y maer i geisio gwneud dêl efo i sicrhau gollwng y cyhuddiadau yn ei erbyn. O gyrraedd neuadd y ddinas maent yn canfod bod Massimo Torini, aelod blaenllaw o Mafia Sisili sydd ddim am weld dêl yn cael ei wneud wedi herwgipio'r maer. Mae Toni a Salvatore yn erlid Massimo, yn ei ladd ac yn achub y maer. Bellach mae lle Salvatore fel prif mobster Liberty City wedi sicrhau ac mae Toni yn cael ei godi yn Capo regime, neu ddirprwy iddo.

Tony GTA III (tua 2001) golygu

 
Toni a Claude yn GTAIII

Yn GTA III, mae gwedd Toni wedi newid yn aruthrol. Dydy ei wallt ddim mor dywyll ac mae'n dechrau gwynnu ac mae o wedi twchu. Mae'n dal i weithio gyda'i fam ac fe'i gwelir yn aml yn y bwyty teuluol, lle mae'n darparu Claude gyda swyddi. Mae ei fam yn parhau i'w sarhau am beidio bod hanner y dyn oedd ei dad. Mae o'n cael cymaint t o lond bol fel ei bod yn ffonio'r orsaf radio trafod leol, Chatterbox FM, i gwyno am nagio cyson ei fam.

Joe, mab Salvatore, sy'n cyflwyno Claude i Toni. Mae Toni rhoi tasgau i Claude i ymosod ar y Triads (y maffia Tsieineaidd a gelynion teulu Leone), gan gynnwys ceisio cael arian amddiffyn gan siop golchi dillad Mr Wong, dinistrio rhai o faniau pysgod y Triad a ffatri pysgod y Triad yn Callahan Point. Mae Toni yn ei dro yn cyflwyno Claude i Salvatore Leone.

Cyfeiriadau golygu

  1. Baeta, Maria (14 Ionawr 2014). "Our 10 favorite GTA characters". Softonic. Cyrchwyd 9 Mehefin 2018.
  2. "Michael Madsen ar IMDb". IMDb. Cyrchwyd 9 Mehefin 2018.
  3. "Danny Mastrogiorgio ar IMDb". IMDb. Cyrchwyd 9 Mehefin 2018.
  4. GTA Grand Theft Wiki - Toni Cipirani adalwyd 9 Mehefin 2018
  5. IMDB Grand Theft Auto Liberty city stories adalwyd 9 Mehefin 2018
  6. Adolygiad o'r gêm ar gamespot
  7. Liberty Tree 30 Hydref 1998 (Llawlyfr y gêm)