Salvatore Leone
Mae Salvatore Leone yn gymeriad yn gyfres gemau fideo Grand Theft Auto. Mae'n ymddangos fel cymeriad cefnogol yn Grand Theft Auto: San Andreas (wedi ei osod ym 1992); prif gymeriad yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories (wedi ei osod ym 1998) a phrif gymeriad yn Grand Theft Auto III (wedi ei osod yn 2001). Ef yw Don neu benaeth y syndicâd maffia Teulu Leone. Mae'r actor Frank Vincent yn lleisio'r cymeriad[1].
cymeriad Grand Theft Auto | |
Salvatore yn GTA III | |
Ymddangosiad cyntaf | "Salvatore's Called A Meeting" |
---|---|
Ymddangosiad olaf | "The Sicilian Gambit" |
Crewyd gan | Rockstar |
Llais | Frank Vincent |
Geni | Palermo, Sisili, Yr Eidal |
Rhyw | gwryw |
Dinasyddiaeth | UDA Eidal |
Gwaith | Don (Pennaeth) Syndicâd Maffia Teulu Leone |
Cefndir
golyguCafodd Salvatore ei eni yn Palermo, Sisili ym 1935[2]. Bu ganddo brawd, sydd wedi marw, ac roedd yn agos i gefnder a gafodd ei ladd gan aelod o syndicâd maffia arall, y Teulu Sindacco. Symudodd i Liberty City gyda'i wraig gyntaf. Bu i salvatore a'i wraig gyntaf un fab, Joey. Roedd yn byw mewn plasdy crand, yn ardal St Marks o Portland[3].
Personoliaeth
golyguRoedd Salvatore Leone yn bennaeth mob didostyr iawn ac yn un gyflym i wylltio. Nid oedd ganddo lawer o oddefgarwch tuag at gystadleuwyr. Roedd yn gwneud defnydd rheolaidd o ddihirod cyflogedig i niweidio gangiau cystadleuol. Nid oedd ei berthynas â'i fab, Joey, yn wych. Roedd yn credu bod Joey yn poeni mwy am ei geir a'i modurdy na dilyn yn nhraed ei dad a dod yn ben ar y teulu. Roedd Salvatore yn meddwl fwy am Toni Cipriani, aelod brwd o'i gang ac yn ymddiried mwy yno ef nac yn ei fab. Mae'n bosib bod ei baranoia wedi cychwyn ar ôl i Carl "CJ" Johnson, un yr oedd wedi ymddiried ynddo, ei fradychu a'i dwyllo allan o $5,000,000. Roedd ei baranoia mor ddrwg fel ei fod hyd yn oed wedi tynnu gwn ar Toni, ei was mwyaf ffyddlon.
Salvatore GTA: San Andreas
golyguYm 1992 (y flwyddyn mae San Andreas wedi ei osod ynddo) aeth Johnny Sindacco, aelod o Syndicâd Maffia y Sindacco i weld Salvatore gydag awgrym o gyd weithio rhwng tri theulu maffia Liberty City (Leone, Sindacco a Forelli), mewn ymgais i greu heddwch rhwng y tri theulu. Ei awgrym oedd byddai'r tri yn cyfrannu $5 miliwn yr un i brynu Palas Caligula, casino a gwesty yn Las Venturas[4]. Yn wreiddiol roedd Salvatore yn anfodlon bod yn rhan o'r cynllun, cyn iddo feddwl am blan i gael y fenter o dan ei reolaeth ef[4]. Mae o'n mynnu bod rhywun annibynnol yn rhedeg y fenter ac yn awgrymu cynnig y swydd i Ken Rosenberg, cyn cyfreithiwr oedd wedi bod yn gweithio ar ran wahanol deuluoedd maffia yn Vice City gan gynnwys teulu Forelli. Mae'r tri theulu yn cytuno a'r apwyntiad. Roedd Rosenberg wedi colli ei swydd fel cyfreithiwr oherwydd ei ddibyniaeth ar gyffuriau[5] ac ar fin dod allan o driniaeth caethiwed i gyffuriau[4]. Mi fyddai'n sicr yn ddiolchgar am swydd ac yn fodlon plesio ei feistri newydd i gadw'r swydd. Yn ddiarwybod i'r ddau deulu arall roedd Leone yn gwybod bod Rosenberg wedi bod yn gyd weithio a Tommy Vercetti (GTA:Vice City) y gŵr fu'n gyfrifol am ddwyn busnes Forelli yn ninas Vice City a lladd Sonny Forelli mab hynaf y teulu. Byddai'r wybodaeth yma yn sicrhau bod Salvatore yn gallu rheoli Rosenburg, a thrwy hynny rholi'r fenter casino.
Mae Salvatore yn hedfan i Los Venturas i roi gwybod i Ken Rosenberg pwy oedd wir bos y busnes. Mae'n gwneud yn siŵr bod Ken yn gwybod mae ei brif ddyletswydd bydd sicrhau ei fod yn cael ei arian yn ôl ar fyrder. Ar ei daith i Los Venturas mae'n cyfarfod a chydnabod i Ken, Carl "CJ" Johnson, prif gymeriad y gêm. Mae CJ yn ddweud wrtho ei fod yn adnabod Joey, ei fab. Cyn dychwelyd i San Andreas fu CJ yn gweithio i Joey yn Liberty City yn dwyn ceir iddo addasu ac ailwerthu. Wedi cael geirda gan Ken a Joey mae Salvatore yn ymddiried tasgau iddo. Mae'n gofyn iddo ladd aelodau o'r teulu Forelli sydd ar eu ffordd i'r ddinas mewn awyren ac wedyn i ddychwelyd i Liberty City i ymosod ar wrthwynebwyr iddo yn Marco's Bistro. Mae CJ yn fodlon derbyn cyflog Salvatore am wneud y tasgau, ond nid yw'n gweithio iddo, go iawn. Mae CJ yn gweithio efo'r gang Tsieineaidd, y Triads, perchenogion casino cyfagos. Mae CJ a'r Triads yn trefnu lladrad o Balas Caligula bydd yn arwain at ei fethdalu. Wedi cynorthwyo Ken a dau ŵr o Lerpwl fu'n canu yn y casino, Paul a Maccer i ffoi mae CJ a'r Triads yn cyflawni'r lladrad yn llwyddiannus. Mae Salvatore yn ffonio CJ gan fygwth ei ladd ef a phob aelod o'i deulu am ei dwyll. Does dim tystiolaeth ei fod wedi gwireddu ei fygythiad.
Rhamant
golyguYn ystod ei gyfnod yn Las Venturas, mae Salvatore yn dechrau perthynas rhamantus gydag un o weinyddesau Palas Caligula, Maria Latore. Maent yn cwrdd pan fydd hi'n gweini brechdan iddo. Er ei bod hi'n digywilydd, braidd i'r bos mawr, mae'r ddau yn dod ymlaen yn dda. Erbyn gêm nesaf y gyfres bydd y ddau yn briod.
Salvatore GTA: Liberty City Stories
golyguTua 1984 bu i Toni Cipriani alod blaenllaw o'r Syndicâd Leone lladd Uomo compiuto (Dyn o Anrhydedd; Saesneg: Made Man)[6] o syndicâd wrthwynebus i'r Teulu Leone, ar gais Salvatore. Gorchymyd iddo mynd yn alltud o Liberty City dros dro. Ym 1998, y flwyddyn y mae gêm Liberty City Stories wedi ei osod ynddi, mae Salvatore yn croesawu Toni yn ôl i'r ddinas. Wedi dychwelyd mae Toni yn canfod bod aelodau eraill y gang wedi dringo'r i safleoedd o bwys yn ei absenoldeb tra ei fod o yn dal i gael ei ystyried fel un o'r troed filwyr sydd dal ar waelod y domen. Mae Salvatore yn disgwyl i Toni gweithio fel gwas i Vincenzo Cilli, un o'r dynion sydd wedi dringo'r ystôl yn ei absenoldeb. Dydy o ddim yn hapus efo'r sefyllfa ac mae anghydfod yn codi rhwng Toni a'i bos newydd. Mae Toni yn gorfod gwneud tasgau i Vincenzo, sydd yn ei drin o fel baw. Mae o hefyd yn gwneud gwaith uniongyrchol i Salvatore sy'n codi eiddigedd Vincenzo. Un o'r swyddi israddol mae Vincenzo yn rhoi i Toni yw mynd i gasglu ei gar. Wrth fynd i mewn i'r car mae'n canfod bod yr heddlu yn ei wylio gan fod Vincenzo wedi dweud bod wrthynt fod Toni wedi ei ddwyn. Mae Toni yn ffoi rhag yr heddlu ac yn distrywio'r car mewn dial. Mae Vincenzo yn denu Toni i ymweld â llong nwyddau yn yr harbwr, lle mae o'n bwriadu ei ladd; ond mae Toni yn ei drechu a Vincenzo sydd yn marw yn y pendraw. Wedi lladd Vincenzo mae Toni yn dechrau gwneud gwaith mwy pwysig ar gyfer ei Don.
Mae Salvatore yn dechrau gweithio efo Joseph Daniel "JD" O'Toole, rheolwr Paulie's Revue Bar. Mae'r Bar yn glwb dawns arffed sydd yn eiddo i Deulu Sindacco. Trwy fradychu ei gang ei hun mae "JD" yn rhoi gwybodaeth werthfawr i Salvatore ar sut i leihau grym Teulu Sindacco yn y ddinas. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybod i Toni sut i ddistrywio casino Sindacco efo bomiau. Er gwaethaf ei gymorth i wanhau gwrthwynebwyr Salvatore, mae Salvatore yn penderfynu nad oes modd i ymddiried mewn dyn sy'n fodlon bradychu’r gang y maen aelod ohoni. Mae'n gorchymyn Toni i ladd "JD" wedi i'w gyfnod o ddefnyddioldeb dod i ben[7].
O herwydd ei lwyddiant i wanhau'r Teulu Sindacco, mae'r Teulu yn herwgipio Salvatore gyda'r bwriad o'i ladd. Mae Toni yn ei achub. Mae Teulu Sindacco yng nghyd weithio gyda gangiau’r Diablos a'r Triad i ymosod ar Salvatore. Mae Salvatore yn penderfynu ffoi i ynys Staunton.
Mae Salvatore o'r farn bod llawer o broblemau yn deillio o'r ffaith bod Roger C Hole, maer y ddinas[8] ym mhoced ei wrthwynebwyr. Mae'n gorchymyn Toni i lofruddio'r maer. Yn yr isetholiad olynol mae o'n ymgyrchu ar ran y biliwnydd Donald Love. O ganfod bod Love ym mhoced teulu Leone mae'r etholwyr yn troi yn ei erbyn ac yn ethol ei wrthwynebydd Miles O'Donovan, dyn sydd ym mhoced Teulu Forelli. Mae'r maer newydd yn sicrhau bod yr heddlu yn arestio Salvatore Leone. Wrth gael ei hebrwng o swyddfa'r heddlu i'r carchar mae Toni yn ei helpu i dorri'n rhydd. Mae Toni a Salvatore yn mynd i weld y maer i geisio gwneud dêl efo i sicrhau gollwng y cyhuddiadau yn ei erbyn. O gyrraedd neuadd y ddinas maent yn canfod bod Massimo Torini, aelod blaenllaw o Mafia Sisili sydd ddim am weld dêl yn cael ei wneud wedi herwgipio'r maer. Mae Toni a Salvatore yn erlid Massimo, yn ei ladd ac yn achub y maer. Bellach mae lle Salvatore fel prif mobster Liberty City wedi sicrhau.
Salvatore Grand Theft Auto III
golyguErbyn 2001 (cyfnod GTA III), mae Teulu Leoneo yn ei chael hi'n anodd cynnal eu rheolaeth ar Portland oherwydd pwysau cynyddol gan gangiau'r Triads, y Diablos ac, yn bennaf, Cartel y Colombiaid, a sefydlodd ffatri cyffuriau cyfrinachol ar long cludo yn Harbwr Portland. Er gwaethaf y problemau, mae Salvatore yn parhau i redeg ei syndicâd o'i blasty. Mae'n cael ei gyflwyno i Claude, troseddwr a lwyddodd i ddianc o afael yr heddlu wedi i'r Cartel ymosod ar y fan oedd yn ei drosglwyddo i'r carchar[9]. Mae Claude yn cwrdd â Maria Latore, gwraig Salvatore ac yn ei hebrwng i brynu cyffuriau ac i'w hachub hi rhag cyrch yr heddlu ar barti anghyfreithiol. Mae Claude hefyd yn gweithio i Toni Cipriani, sydd bellach yn rhaglaw Salvatore yn syndicâd Leone a Joe, mab Salvatore. Wedi cael geirda gan deulu a chynghreiriaid mae Salvatore yn penderfynu rhoi gwaith i Claude. Mae Salvatore yn cael Claude i ddilyn a lladd Curly Bob, sydd wedi bod yn bradychu'r teulu i'r cartel ac i ddistrywio'r llong sy'n cael ei ddefnyddio fel ffatri cyffuriau'r Cartel. Mae'n ymddangos bo llwyddiannau Claude yn ei dasgau wedi ennill parch Salvatore iddo. Ond mae eu perthynas yn suro.
Marwolaeth
golyguEr mwyn gwneud ei gŵr yn eiddigeddus mae Maria yn dweud wrtho ei bod wedi cael perthynas efo Claude ac mae Salvatore yn penderfynu lladd y ddau. Mae Maria yn clywed am y cynllun ac mae hi a Claude yn ffoi gyda chymorth Asuka Kasen, ffrind i Maria. Mae Asuka yn arweinydd ar gang debyg i'r Maffia o Japan, y Yakuza. Cyn bod modd i Claude cyflawni tasgau iddi hi a'i gang mae'n rhaid iddo brofi ei fod wedi torri pob teyrngarwch â Theulu Leone, trwy ladd Salvatore. Mae Claude yn gwneud hynny trwy ei saethu wrth iddo ymadael â'r clwb dawnsio arffed
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Salvatore Leone". gta.wikia. Cyrchwyd 19 Mehefin 2018.
- ↑ "Salvatore Leone". grandtheftwiki. Cyrchwyd 19 Mehefin 2018.
- ↑ "Salvatore Leone". Giant Bomb. 19 Mehefin 20018. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ 4.0 4.1 4.2 "The Introduction Script by Klaydoggy". Game FAQS. Cyrchwyd 19 Mehefin 2018.
- ↑ "Ken Rosenberg". WIKIGTA. Cyrchwyd 19 Mehefin 2018.
- ↑ Adolygiad o'r gêm ar gamespot
- ↑ "The Made Man". Fandom. Cyrchwyd 19 Mehefin 2018.
- ↑ Liberty Tree 30 Hydref 1998 (Llawlyfr y gêm)
- ↑ "YouTube GTA 3 - Intro & Mission #1 - Give Me Liberty". Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in:
|access-date=
(help)