Donald Love

Cymeriad yng ngemau fideo Grand Theft Auto

Mae Donald Love yn gymeriad yn y gyfres gemau fideo Grand Theft Auto. Mae'n ymddangos fel prif gymeriad yn Grand Theft Auto: Liberty city Stories (wedi ei osod ym 1998) a Grand Theft Auto III (wedi ei osod yn 2001). Mae o'n chware rhan fach yn Grand Theft Auto: Vice City (wedi ei osod ym 1986) ac mae cyfeiriadau ato yn Grand Theft Auto IV (wedi ei osod yn 2008) a Grand Theft Auto V (wedi ei osod yn 2013).[1]

cymeriad Grand Theft Auto
Donald Love yn Liberty City Stories
Ymddangosiad cyntaf"Liberator"
Ymddangosiad olaf"Love on the Run"
Crewyd ganRockstar
LlaisKyle MacLachlan yn GTA III
Will Janowitz yn GTA: Liberty City Stories
Rhywgwryw
DinasyddiaethUDA
GwaithCyfarwyddwr Cwmni Love Media

Yn GTA III mae Kyle MacLachlan[2] yn lleisio ei gymeriad, ac yn GTA: Liberty City Stories Will Janowitz[3] sydd yn ei leisio. Nid yw'r actor llais ar gyfer ymddangosiad Donald Love yn GTA: Vice City yn cael ei gredydu.

Love yw'r biliwnydd sy'n berchen ar gwmnïau cyfryngau Love Media mae ganddo hefyd diddordeb yn y diwydiannau adeiladu, perchenogaeth tir a bwydydd anifeiliaid anwes[4] . Mae rhai wedi awgrymu bod ei gymeriad yn gwawdio Donald Trump a oedd yn bersonoliaeth y cyfryngau â diddordebau yn y busnes adeiladu ar adeg cyhoeddi'r gemau.[5]

Cymeriad golygu

Mae Donald Love yn ganibal ac yn meddu ar obsesiwn rhywiol efo cyrff dynol. Mae'n disgrifio blas cig dynol fel bod yn debyg i blas cig cyw iâr ond yn fwy teimladwy[6]. Mae'n cynnal partïon marwdy (Mourge Parties), lle bydd ef a'i westeion yn cael rhyw efo cyrff. Mae'n ŵr coegwych sydd a meddwl uchel iawn ohono'i hun. Yn Vice City mae'n ŵr ifanc sy'n gwisgo siwt drwsiadus gyda thei, mae o hefyd yn gwisgo sbectol[7]. Erbyn Liberty City Stories mae'r sbectol wedi mynd; mae'n wisgo trwsus brown golau, siaced glas a thei ond gyda botwm uchaf ei grys ar agor. Wedi iddo fynd yn fethdalwr mae'n gwisgo siwmper frown fudur ac mae o'n tyfu barf. Wedi adfer ei ffortiwn mae o'n mynd yn ôl i wisgo siwt a thei a weithiau dillad ymarfer corff Liberty Campus yn GTA III ond mae o 'di twchu ac wedi heneiddio.

Donald yn GTA:Vice City golygu

 
Donald yn GTA: Vice City

Yn y gêm Grand Theft Auto: Vice City mae Donald i'w gweld yn y clipiau sy'n cyflwyno tri o'r tasgau. Mae o'n cadw cwmni'r dyn busnes a'r datblygwr tir Avery Carrington. Mae o fel arfer yn cario papur ac ysgrifbin gyda fo er mwyn gwneud cofnodion o berlau gwybodaeth Carrington. Un o'r gwersi mae o'n dysgu gan ei fentor yw "bod dim sy'n dod â phrisiau tir i lawr yn gyflymach na rhyfel gang hen-ffasiwn da", geiriau Carrington i Tommy Vercetti wrth roi'r dasg o ddechrau rhyfel rhwng gangiau Haiti a Ciwba.[8] Wrth roi'r dasg i Claude o greu anghydfod rhwng gang y Japaneaid a'r Colombiaid yn GTA III mae Donald yn ail adrodd doethineb Carrington bron gair am air.

Rhywbryd rhwng 1986 a 1998 mae Donald yn ymadael a Vice City er mwyn sefydlu busnesau cyfryngau a mewnforio yn Liberty City.

Donald yn Liberty City Stories golygu

 
Donald wedi iddo methdalu

Yn Liberty City stories bydd Toni Cipriani yn llofruddio Roger C. Hole, maer y ddinas[9]. Yn yr isetholiad olynol mae Donald Love yn sefyll fel ymgeisydd. Ei wrthwynebydd yw Miles O'Donavan. Mae Donald yn defnyddio ei gyfoeth enfawr i geisio prynu’r etholiad gan gynnwys talu am wasanaethau Toni, sydd yn un o filwyr blaenaf y gang maffia Teulu Leone. Tasg gyntaf Donald ar gyfer Toni yw dwyn corff o hers angladdol er mwyn iddo gael parti rhiw corffgarol fel modd o ddathlu ei ymgeisyddiaeth. Mae Toni yn lladd ymgyrchwyr O'Donavan ac, wedi canfod mae gang elyniaethus i Deulu Leone sy'n argraffu'r papur pleidleisio, i fomio'r wasg. Mae'r ddau yn ceisio pob math o dwyll i droi'r etholiad at achos Donald. Mae Donald yn canfod bod gan O'Donavan tystiolaeth sy'n ei gysylltu o efo'r maffia ac yn danfon Toni i'w distrywio. Ond mae'r cysylltiad rhyngddo a Theulu Leone wedi dod yn rhy amlwg, mae'n colli'r etholiad.

Wedi gwario ei holl arian ar ymgyrchu llwgr mae Donald yn cael ei wneud yn fethdalwr, mae'n gorfod gwerthu ei blasty ac mae'n symud i fyw i dŷ clwydo gwael yn Shoreside Vale.

Mae Donald yn clywed bod ei gyn mentor, Avery Carrington yn dod i'r ddinas er mwyn ailddatblygu ardal Fort Staunton o'r ddinas. Mae o'n cael Toni i ladd Avery a dwyn ei blaniau; bydd hyn yn galluogi Donald i ddechrau ailadeiladu ei ffortiwn trwy gymryd drosodd yr ailddatblygu. Gwelodd Ned Burner, newyddiadurwr ar un o gyn bapurau Donald, llofruddiaeth Avery, rhaid i Toni ei ladd er mwyn rhwystro'r stori rhag cyrraedd y wasg. Er mwyn sicrhau mwy o dir i ddatblygu ac i ddial ar gang y Forelli am gefnogi ei wrthwynebydd yn yr etholiad mae Donald yn talu Toni ac 8-Ball i ddistrywio'r cyfan o ardal Fort Staunton gyda ffrwydron. Gyda ffortiwn newydd wedi sicrhau mae Donald yn prynu plasdy newydd, ond mae'n byw fel carcharor yno o herwydd bod Cartel y Colombiaid am ei ladd. Mae toni yn helpu o i ffoi i'r maes awyr er mwyn iddo ymadael a'r ddinas yn awyren preifat Carrington. Mae on ymadael gyda chyrff Carrington a Burner i gadw cwmni iddo.

Erbyn iddo dychwelyd i Liberty City yn GTA III mae y Cartel wedi meddiannu ei blasdy ac maeDonald yn byw yn swyddfeydd Love Media am resymau sy'n ymwneud â threthi.

Donald GTA III golygu

 
Donald Love yn GTA III

Wedi ffoi o Liberty City, parhaodd Donald i adeiladu ei fusnes gan newid deddfau trwy lygredd er mwyn iddo agor casinos a chlirio slymiau ar hyd a lled America. Dychwelodd i Liberty City wedi i hen elyn iddo, Barry Harcross, dychwelyd yno gyda'r bwriad o brynu cyn papur newyddion Donald, The Liberty Tree[10]. Ailsefydlodd Love Media gan brynnu 900 gorsaf radio, 300 gorsaf deledu, pedwar rhwydwaith, tair lloeren, deg seneddwr, papur The Liberty Tree cwmni bwyd anifeiliaid Bitch'n' Dog a swyddfa 30 llawr i'w gwmniau[4]. Mae'n rhaid ei fod wedi dod i delerau gyd Cartel y Colombiaid gan eu bod hwy sydd yn ailddatblygu Fort Staunton iddo.

Mae Donald yn cyflogi Hen Ŵr o Ddwyrain Asia i ddysgu Tai Chi iddo. Mae'n danfon awyren preifat i ddod a fo i'r ddinas ond mae o'n cael ei rwystro gan yr awdurdodau mewnfudo. Mae'r hen ŵr yn cael ei herwgipio gan Cartel y Colombiaid wrth iddo gael ei drosglwyddo o swyddfa'r heddlu i'r carchar. Mae Claude a 8 Ball yn cael eu trosglwyddo i'r carchar yn yr un fan heddlu ac maent yn llwyddo ffoi ynghanol y cudd-ymosodiad. Yn hwyrach yn y gêm mae Donald yn rhoi dasg i Claud i achyb yr hen ŵr o grafangau'r Cartel. Mae Donald yn cael Claude i ladd Kenji Kasen cyd arweinydd y Yakuza gan ddefnyddio car gang y Cartel er mwyn creu rhyfel rhwng y gangiau i gadw pris tir yn isel. Mae Claud yn cael ei ddanfod i nol pecyn gyda chynwys sy'n aros yn ddirgel o'r maes awyr. Wedi cyraedd y maes awyr mae'n darganfod bod y Cartel wedi ei dwyn. Mae o'n dilyn y Cartel yn ôl i'r safle adeiladu yn Fort Staunton lle mae o'n canfod bod y pecyn yn nwylo ei gyn gariad ac arweinydd y Cartel. Mae o'n cael y pecyn yn ôl ac yn helpu'r hen ŵr i dianc gyda'r pecyn. Mae Donald, yr henŵr a'r pecyn yn diflannu.

Gemau Eraill golygu

Mae llun Donald Love yn ymddangos mewn erthyglau newyddion y Liberty Tree yn Grand Theft Auto IV. Yn nhŷ Playboy X, yn yr un gêm, mae yna naill ai llyfr neu fideo efo'r teitl The Liberty King efo llun Donald ar ei glawr.

Yn Grand Theft Auto V, mae Donald Love yn un o'r enwogion sydd a'u henwau ar sêr ar y Vinewood Walk of Fame, gyda'i seren yn ei alw'n "Personoliaeth Teledu".[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. Donald Love are GTA Fandom adalwyd 10 Mehefin 2018
  2. Kyle MacLachlan ar IMDb adalwyd 10 Mehefin 2018
  3. Will Janowitz ar IMDb adalwyd 10 Mehefin 2018
  4. 4.0 4.1 Tudalen Love Media ar wefan GTA III adalwyd 10 Mehefin 2018
  5. GTA Forums Is Donald Love a parody of Trump? adalwyd 10 Mehefin 2018
  6. Rockstar North (27 Hydref 2001). Grand Theft Auto: Liberty City Stories. PlayStation 2. Rockstar Games. Mission: "Cam-Pain" Donald Love: (wrth roi darn o asen ddynol yn ei geg) "Oh this is good! It tastes just like chicken but somehow more...er...sentient"
  7. "Two Bit Hit - GTA: Vice City Mission #20". YouTube. Cyrchwyd 10 Mehefin 2018.
  8. "Donald Love". WIKIGTA. Cyrchwyd 10 Mehefin 2016.
  9. Liberty Tree 30 Hydref 1998 (Llawlyfr y gêm)
  10. Liberty Tree 1 Chwefror 2001 BUSINESS MAN CLEARED OF ALL CHARGES RETURNS TO LIBERTY CITY Archifwyd 2012-09-25 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 11 mehefin 20018
  11. "Donald Love". Grandtheftwiki. Cyrchwyd 11 Mehefin 2016.