Awdur Seisnig oedd Alan Alexander Milne (18 Ionawr 188231 Ionawr 1956). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei lyfrau am arth o'r enw Winnie-the-Pooh a cherddi plant. Roedd yn llenor nodedig, yn bennaf fel dramodydd cyn i lwyddiant Pooh wthio ei lwyddiant cynt i'r cysgodion.

A. A. Milne
GanwydAlan Alexander Milne Edit this on Wikidata
18 Ionawr 1882 Edit this on Wikidata
Llundain, Henley House Edit this on Wikidata
Bu farw31 Ionawr 1956 Edit this on Wikidata
Hartfield Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, bardd, nofelydd, awdur plant, sgriptiwr, swyddog milwrol, rhyddieithwr, dramodydd, awdur ysgrifau, awdur, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWinnie-the-Pooh Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth plant, stori fer, stori dylwyth teg Edit this on Wikidata
TadJohn Vine Milne Edit this on Wikidata
MamSarah Maria Heginbotham Edit this on Wikidata
PriodDaphne Milne Edit this on Wikidata
PlantChristopher Robin Milne Edit this on Wikidata
llofnod
A. A. Milne yn 1922

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Milne yn Hampstead, Llundain a thyfodd i fyny yn Henley House School, 6/7 Mortimer Road, Kilburn, Llundain, ysgol annibynnol fechan a gynhaliwyd gan ei dad, John V. Milne. Un o'i athrawon oedd H. G. Wells. Mynychodd Ysgol Westminster a Coleg y Drindod, Caergrawnt lle astudiodd mathemateg gyda ysgoloriaeth. Tra yno, ysgrifennodd a golygodd y cylchgrawn myfyrwyr Grants, cyd-weithiodd gyda'i frawd, Kenneth, ac ymddangosodd eu erthyglau o dan y llythrennau AKM. Daeth gwaith Milne i sylw'r cylchgrawn hiwmor Prydeinig, Punch a daeth yn gyfrannwr i'r cylchgrawn ac yn ddiweddarach yn olygydd cynorthwyol.

Ymunodd Milne â'r Fyddin Brydeinig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd fel swyddog yn y Royal Warwickshire Regiment, ac yn ddiweddarach ar ôl dioddedd o salwch a'i wanychodd, gyda'r Royal Corps of Signals. Ar ôl y rhyfel, ysgrifennodd Peace with Honour (1934) a wrthododd y syniad o ryfel; cymerodd hyn yn ôl i ryw raddau gyda War with Honour yn yr 1940au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Milne yn un o feirniaid mwyaf blaengar o'r llenor P.G. Wodehouse, a gafodd ei ddal yn ei gartref gwledig yn Ffrainc gan y Natsiaid ai garcharu am flwyddyn. Darlledodd Wodehouse ar y radio o Ferlin ynglŷn â'i garchariad. Er eu bod yn ddarllediadau ysgafn a wnaeth hwyl o'r Almaenwyr, cyhuddodd Milne ef o draddodi brad gan gyd-weithio gyda gelyn ei wlad. (Ond fe gafodd Wodehouse ddial i rhyw raddau gan greu parodiau yn gwneud hwyl o gerddi Christopher Robin Milne yn ei storiau diweddarach.)

Yn ystod yr ail-ryfel byd, roedd yn gapten ar y Home Guard yn Hartfield a Forest Row, a mynodd fod aelodau o'r platŵn yn cyfeirio ato'n syml fel 'Mr Milne'.

Priododd Milne Dorothy "Daphne" de Selincourt yn 1913, a ganwyd eu unig fab, Christopher Robin Milne, yn 1920. Yn 1925, prynodd A. A. Milne ei gartref gwledig, Cotchford Farm, yn Hartfield, Dwyrain Sussex. Ymddeolodd i'r fferm ar ôl i strôc a llawdriniaeth ar ei ymenydd yn 1952 ei adael yn fethedig. Roedd Cotchford Farm hefyd yn gartref i prif gitarydd y Rolling Stones, Brian Jones a'i ganfwyd wedi ei foddi yno yn 1969. Mae Cotchford Farm eisoes wedi cael ei ddymchwel oherwydd y gôst trwsio a chynnal aruthrol, ac adeiladwyd tŷ newydd ar y safle.

Llyfryddiaeth

golygu

Nofelau

golygu

Ffeithiol

golygu

Erthyglau Punch:

Dewisiad o erthyglau a chyflwyniadau i lyfrau eraill:

Casgliadau Straeon ar gyfer plant

golygu

Barddoniaeth

golygu

Ar gyfer y Luncheon Interval (cerddi o Punch)

Dramâu

golygu

Ysgrifenood Milne dros 25 o ddramâu gan gynnwys:

Llyfrau am Pooh a Milne

golygu

Ffilmiau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  • (Saesneg) Thwaite, Ann (2004). Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/35031. Missing or empty |title= (help)CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)

Dolenni allanol

golygu