A. W. Wade-Evans

offeiriad a hanesydd

Hanesydd o Gymru ac offeiriad Anglicanaidd oedd Arthur Wade Wade-Evans (31 Awst 1875 - 4 Ionawr 1964).

A. W. Wade-Evans
Ganwyd31 Awst 1875 Edit this on Wikidata
Abergwaun Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1964 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Wade-Evans yn Abergwaun, Sir Benfro, yn fab i gapten llong. Graddiodd o Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1896 a chafodd ei ordeinio'n ddiacon yn 1898. Bu'n gurad yn Llundain, Caerdydd, English Bicknor a Llangystennin Garth Brenn (Welsh Bicknor) cyn dod yn ficer France Lynch yn 1909. Yn ddiweddarach bu'n ficer Pottersbury gyda Furtho a Yardley Gobion ac yna Wrabness. Ymddeolodd yn 1957, a bu'n byw yn Frinton-on-Sea, Essex, lle y bu farw.

Hanesydd

golygu

Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes cynnar Cymru a Phrydain. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gred fod y farn gyffredinol ymysg haneswyr ar y pryd, fod trigolion Brythonaidd Lloegr wedi eu gyrru ar ffo i'r gorllewin gan y Sacsoniaid, yn anghywir ac yn seiliedig ar gamddehongliad o De Excidio Britanniae gan Gildas (?6g). Yn ôl Wade-Evans, ysgrifennwyd y De Excidio - "y stori ddychmygol hon" sydd "wedi gwenwyno ffynhonnau hanes y Cymry am ganrifoedd"[1] - ar ddechrau'r 8g, ond nid yw pawb yn derbyn ei ddamcaniaeth.

Cyhoeddiadau

golygu
  • Nennius's "History of the Britons" (1938)
  • Coll Prydain (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1950). Cyfieithiad o'r De Excidio Britanniae gyda rhagymadrodd a nodiadau.
  • The emergence of England and Wales (1956, 1959)
  • Welsh Christian origins (1934)
  • Parochiale Wallicanum (1911)
  • Vitae sanctorum Britanniae et genealogiae (1944).
  • Welsh mediaeval law (1909)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Coll Prydain, rhagymadrodd.