Llangystennin Garth Brenn

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Llangystennin Garth Brenni[1] (Saesneg: Welsh Bicknor).[2][3] Hyd at 1844 roedd y pentref o fewn Sir Fynwy, Cymru.[4] Tua dwy filltir i'r gogledd mae tref Rhosan ar Wy a phedair milltir i'r de-orllewin mae Mynwy. Saif y pentref "Welsh Bicknor" ger y ffin â Swydd Gaerloyw, gyferbyn â phentref English Bicknor.

Llangystennin Garth Brenn
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod unedol)
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.8551°N 2.5887°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000901 Edit this on Wikidata
Cod OSSO595175 Edit this on Wikidata
Map

Dywedir i Harri V, brenin Lloegr, fyw pan oedd yn blentyn yn y Maendy lleol, sef Courtfield (hefyd Greyfield a Greenfield), yn dilyn marwolaeth cynamserol ei fam Mary de Bohun, dan ofal yr Arglwyddes Margaret Montacute. Ceir cofeb i Margaret Montacute yn yr eglwys leol.

Perthyn i deulu'r Fychaniaid oedd y tiroedd hyn ar un adeg, a maenordy Courtfield hefyd, a cheir pentref i'r de (dros yr afon) o'r enw English Bicknor ac sydd yn Swydd Gaerloyw. Yn 1651 dygwyd holl diroedd Richard Vaughan (a oedd yn Babydd) gan Goron Lloegr a'u rhoi i Phillip Nicholas o Lan-soe, ym Mynwy.

Parhaodd disgynyddion Richard Vaughan i wrthwynebu'r drefn Saesnig ac yn 1715 gwrthododd John Vaughan dyngu llw o ffyddlondeb i Siôr I, brenin Prydain Fawr.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Eglwys Santes Marged

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Henffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.