African National Congress
Plaid lywodraethol De Affrica yw'r African National Congress ("Cyngres Genedlaethol Affricanaidd"), ers i reolaeth fwyafrifol gael ei sefydlu ym mis Mai 1994. Derbyniant gefnogaeth wrth gynghrair teir-rhan gyda Chynghrair Undebau Llafur De Affrica (COSATU) a Plaid Gomiwnyddol De Affrica (SACP). Diffinia'r blaid ei hun fel "grym disgybledig yr adain chwith". Sefydlwyd y blaid yn Bloemfontein ym mis Ionawr 1912 o dan yr enw South African Native National Congress (SANNC) er mwyn cynyddu hawliau y bobl dduon yn Ne Affrica. Roedd John Dube yn lywydd cyntaf i'r blaid a'r bardd a'r awdur Sol Plaatje yn un o'r aelodau cyntaf. Newidiodd y sefydliad ei enw i'r ANC ym 1923 a ffurfiwyd adain filwrol, y Umkhonto we Sizwe (Gwaywffon y Genedl) ym 1961.
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | cenedlaetholdeb Affricanaidd, democratiaeth gymdeithasol |
Label brodorol | African National Congress |
Dechrau/Sefydlu | 8 Ionawr 1912 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Pennaeth y sefydliad | Secretary-General of the African National Congress |
Sylfaenydd | John Langalibalele Dube |
Aelod o'r canlynol | Socialist International |
Pencadlys | Luthuli House |
Enw brodorol | African National Congress |
Gwladwriaeth | De Affrica |
Gwefan | https://www.anc1912.org.za/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r blaid wedi bod yn rheoli'r wlad ar lefel genedlaethol ers diwedd apartheid ym 1994. Cynyddodd canran y blaid o'r bleidlais yn etholiadau 1999 a chynyddodd ymhellach yn 2004.
Mae Cyril Ramaphosa wedi bod yn llywydd y blaid ers 2017.