Sol Plaatje

ieithydd, ymgyrchydd hawliau Duon, llenor, De Affrica

Roedd Solomon Tshekisho Plaatje, fel rheol Sol Plaatje (9 Hydref 1876 - 19 Mehefin 1932) yn adnabyddus yn rhyngwladol fel newyddiadurwr, ymgyrchydd iaith, awdur a gwleidydd amlieithog o Dde Affrica, ac un o sefydlwyr Cyngres Genedlaethol Brodorol De Affrica (SANNC), a elwir bellach yn yr ANC. Cymaint bu ei gyfraniad i'r iaith a'r diwylliant Tswana ac at hawliau pobl frodorol De Affrica fel iddo gael ei gydnabod wedi cwymp Apartheid gan enw Cyngor Bwrdeistref Sol Plaatje (sy'n cynnwys dinas Kimberley), ar ei ôl a Phrifysgol Sol Plaatje yn y ddinas honno hefyd, a agorodd ei drysau yn 2014.[1]

Sol Plaatje
Ganwyd9 Hydref 1876 Edit this on Wikidata
Gweriniaeth Rydd yr Oren Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 1932, 19 Mehefin 1932 Edit this on Wikidata
Johannesburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner De Affrica De Affrica
Galwedigaethgwleidydd, cyfieithydd, newyddiadurwr, llenor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMhudi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAfrican National Congress Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Luthuli Edit this on Wikidata

Cyd-desun

golygu

Roedd yn frodor o Boshoff, Orange Free State, yn ieithydd cyntaf, sydd ar wahân i'w Setswana brodorol, prif iaith Botswana ac iaith fwyafrifol talaith 'North West' De Affrica gyfoes, hefyd gallai siarad Saesneg, Afrikaans, Iseldireg, Ffrangeg, Almaeneg, Sotho, Zulu a Xhosa. Cyfieithodd nifer o weithiau gan awduron Duon i ieithoedd Ewropeaidd, a gweithiau Saesneg, yn enwedig gweithiau William Shakespeare, i'w famiaith, Tswana.

Yn ystod yr Ail Ryfel y Boer rhwng 1899 a 1902, bu'n gweithio fel newyddiadurwr rhyfel, yn ddiweddarach fel cyhoeddwr papurau newydd y K Limited a Becoana (1901-1908) a Tsala a Batho ("Volksvriend", ers 1912). Bu'n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd (ANC) ac mae'n teithio fel gweithredwr y Mudiad Hawliau Sifil Du sawl gwaith i Ganada (1920), yr Unol Daleithiau (1921) lle cyfarfu â'r ymgyrchwyr hawliau duon, Marcus Garvey a W. E. B. Du Bois. ac Ewrop. Bu farw ar 19 Mehefin 1932 yn Johannesburg.

Bywyd cynnar

golygu
 
Dirprwyaeth y South African Native National Congress i Loegr, Mehefin 1914. Ch-Dde: Thomas Mapike, Rev. Walter Rubusana, Rev. John Dube, Saul Msane, Sol Plaatje

Ganed Solomon Tshekisho Plaaitjie, yn Doornfontein, ger Boshof, Orange Free State, (a adwaenir bellach fel Talaith y Wladwriaeth Rydd), chweched plentyn o wyth i John a Martha, o lwyth y Tswana. Enw ei daid oedd Selogilwe Mogodi (1836-1881), ond rhoddodd ei ddarparwr gwaith, ffermwr gyda'r fan Groenewald, y llysenw Plaaitjie iddo. Yn ddiweddarach, defnyddiodd ei deulu ef fel fan. Pan oedd Solomon yn bedair oed, symudodd ei deulu i Pniel, yn y Cape Colony i weithio i genhadwr o'r Almaen, Ernst Westphal a'i wraig, Wilhelmine. Yno cafodd addysg cenhadol. Pan basiodd ei gyd-fyfyrwyr, dysgodd Wilhelmine ef yn bersonol, a rhoddodd iddo feiolin a phiano i'w chwarae yn ogystal â chanu. Pan oedd yn 15 oed, bu'n gweithio fel athro ysgolheigaidd ac yn y swydd am ddwy flynedd.

Ar ôl gadael yr ysgol, symudodd i Kimberley a dechreuodd weithio fel negesydd telegraff ar gyfer y swyddfa bost. Wedi hynny ysgrifennodd a phasiodd yr arholiad clerc, (yr uchaf yn y drefedigaeth) gyda marciau uwch nag unrhyw ymgeisydd arall wrth deipio yn ogystal ag yn yr Iseldireg. Gydag hynny, enillodd yr hawl i bleidlais - y ddeddf ar y pryd yn Nhrefedigaeth y Penrhyn oedd, os oedd person hŷn na 21 oed yn gallu darllen ac ysgrifennu yn yr Iseldiroedd a'r Saesneg, gâi'r hawl i'r bleidlais. Daeth yr hawl yma i ben pan ddaeth rheolaeth Prydain i ben.

Ieithydd

golygu
 
Sol Plaatje (canol) yn ymddangos yn sioe Cradle of the World, 1923 Llundain

Magwyd Plaatje yn siaradwr Setswana (gelwir hefyd yn Tswana) a daeth yn rhugl mewn o leiaf saith iaith (Saesneg, Iseldireg (a oedd yn dal yn iaith swyddogol ac iaith addysg yn Ne Affrica nes yr 1920au), Afrikaans (a safonwyd ac enillodd statws yn ystod ei fywyd, er mai dyma oedd iaith bob-dydd mwyafrif y bobl a ystyriwyd yn "siaradwyr Iseldireg"), Xhosa, Swlŵeg, Almaeneg a Ffrangeg. Gweithiodd fel cyfieithydd llys yn ystod y Gwarchae Mafeking yn Rhyfel y Boer, a chyfieithodd waith William Shakespeare i Tswana. Byddai ei ddawn am iaith yn arwain at yrfa mewn newyddiaduraeth ac ysgrifennu. Bu'n olygydd ac yn berchen-berchennog baour Sestwana, Kuranta ya Becoana ("Gazette Bechuana") yn Mahikeng, ac yn Kimberley, y Tsala ya Becoana ("Cyfaill Bechuana") a'r Tsala ya Batho ("Cyfaill y Bobl").

Plaatje oedd y person du gyntaf o Dde Affrica gyntaf i ysgrifennu nofel yn Saesneg - Mhudi. Ysgrifennodd y nofel yn 1919, ond dim ond yn 1930 y cafodd ei chyhoeddi. Yn 1928 cyhoeddodd yr awdur Zulu RRR Dhlomo nofel Saesneg o'r enw An African Tragedy, dan wasg y cenhadwr, Lovedale Press, yn Alice. Golyga hyn yn mai nofel Dhlomo oedd y nofel gyntaf gan berson croenddu o Dde Affrica yn Saesneg, er mai nofel Plaatje, Mhudi, oedd yr un a ysgrifennwyd gyntaf. Ysgrifennodd hefyd Native Life in South Africa, a ddisgrifiwyd gan Neil Parsons fel "un o'r llyfrau mwyaf rhyfeddol ar Affrica gan un o awduron mwyaf nodedig y cyfandir",[2] a Boer War Diary a gyhoeddwyd gyntaf 40 mlynedd ar ôl ei farwolaeth.

Gwaddol

golygu

Bu coffa da am Plaatje wedi ei farwolaeth, ac yn enwedig wedi cwymp Apartheid. Enwyd prifysgol ar ei ôl, Prifysgol Sol Plaatje yn ninas Kimberley. Er, mewn arwydd o'r diffyg statws gwirioneddol iddo ac i'w iaith, dim ond yn Saesneg mae wefan y brifysgol (yn 2022) ac nid oes unrhyw gyrsiau na modiwlau drwy gyfrwng yr iaith Setwswana gan y brifysgol.

Ceir hefyd Bwrdeistref Sol Plaatje sy'n cynnwys dinas Kimberley yn nhalaith Noord Kaap, De Affrica yn 1995. Mae gwefan y bwrdeistref yn iaith Saesneg [3] er mai Saesneg yw'r drydydd iaith o ran siaradwyr iaith gyntaf ar ôl Afrikaans yna Setswana.[4]

Ceir Argae Sol Plaatje yn nhalaith y Free State, sef argae a adeiladwyd yn 1968 ond newidiwyd ei enw er cof am Sol Plaatje yn 2005.[5]

Sefydlwyd Sol Plaatje Prize for Translation sy'n wobr a ddyfernir ddwywaith y flwyddyn, a ddyfarnwyd gyntaf yn 2007,[6] am gyfieithu rhyddiaith neu farddoniaeth i'r Saesneg o unrhyw un o ieithoedd swyddogol eraill De Affrica. Trist nodi mai cyfieithu i'r Saesneg, ac felly cryfhau'r iaith honno, mae'r wobr ac nid cyfrannu na chyfoethogi ieithoedd brodorol De Affrica yw pwrpas y wobr.

Llyfryddiaeth

golygu
 
Amgueddfa Sol Plaatje, Kimberley - noder arwydd uniaith Saesneg
 
Pwerdŷ Sol Plaatje

Llyfrau yn Setswana

golygu

Cyfieithiadau o ddramâu William Shakespeare i'r Setswana.

  • Dikhontsho tsa bo-Juliuse Kesara - Julius Caesar
  • Diphosho-phosho - The Comedy of Errors

Llyfrau Saesneg

golygu

Llyfrau Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod ei fywyd:

  • The Boer War Diary of Sol T. Plaatje: an African at Mafeking. Macmillan. 1973. ISBN 978-0-86954-002-2.CS1 maint: ref=harv (link) with John L. Comaroff
  • The Essential Interpreter (circa 1909) traethawd
  • Mhudi, an epic of South African native life a hundred years ago. Negro Universities Press. 1930.CS1 maint: ref=harv (link)
  • Native Life in South Africa. London: P. S. King and Son Ltd. 1916. ISBN 978-3-8491-6441-6.CS1 maint: ref=harv (link)
  • Sechuana Proverbs, with Literal Translations and Their European Equivalents,... by Solomon T. Plaatje,... K. Paul, Trench, Trubner and Company. 1916.CS1 maint: ref=harv (link)
  • A Sechuana Reader in International Phonetic Orthography: (with English Translations). 1916.CS1 maint: ref=harv (link)
  • Bantu Folk-Tales and Poems

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu