A Morbid Taste for Bones
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw A Morbid Taste for Bones ("Blas Morbid ar Esgyrn") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1977. Dyma'r ail nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
![]() | |
Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig ![]() |
---|---|
Awdur | Edith Pargeter ![]() |
Cyhoeddwr | Macmillan Publishers ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1977 ![]() |
Genre | ffuglen dirgelwch, nofel drosedd ![]() |
Cyfres | The Cadfael Chronicles ![]() |
Olynwyd gan | One Corpse Too Many ![]() |
Cymeriadau | Cadfael ![]() |
Lleoliad y gwaith | Amwythig, Cymru ![]() |
Mae mynachod Abaty Amwythig yn chwilio yng Nghymru am greiriau sant i'w capel. Dewisir gweddillion Gwenffrewi yng Ngwytherin. Mae pobol yr ardal yn gwrthwynebu colli eu creiriau, a darganfyddir arweinydd lleol wedi ei lofruddio. Herir Cadfael i ddwyn cyfiawnder i bob plaid, yng Nghymru ac yn yr Abaty. (Mae trosglwyddo creiriau'r sant i Amwythig yn 1138 yn seiliedig ar ddigwyddiad hanesyddol.)[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ray Spencer, A Guide to the Saints of Wales and the West Country (Llanerch, 1991)