A esmorga
Nofel gan yr awdur Galisiaidd Eduardo Blanco Amor yw A esmorga a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1959. Mae'n adrodd stori am ddyn o'r enw Cibrán a dau o'i ffrindiau, ac am eu sesiwn yfed dros 24 awr mewn tref o'r enw Auria, sy'n debyg iawn i dref go-iawn Ourense. Mae Cibrán yn dweud ei stori wrth yr heddlu, gan geisio ymddangos yn well nag y mae.[1] Mae'r diwrnod yn orlawn o ddigwyddiadau: dathliadau, tân, ymweliad i hwrdy a thrais erchyll.[2]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Eduardo Blanco Amor |
Cyhoeddwr | Editorial Galaxia, Q31282968 |
Gwlad | yr Ariannin, Sbaen |
Iaith | Galiseg |
Dyddiad cyhoeddi | 1959 |
Cyfres | Q71045816, Q72069184, Biblioteca Básica da Cultura Galega |
Olynwyd gan | Q51059532 |
Cymeriadau | Cibrán, Q73862542 |
Lleoliad cyhoeddi | Buenos Aires |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Lleoliad y gwaith | Talaith Ourense, Q63430692 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffilmiwyd y llyfr ddwywaith: yn 1977 gan Gonzalo Suárez dan y teitl "Parranda", ac yn 2014 gan Ignacio Vilar dan y teitl A esmorga.[3][4]
-
Eglwysi a Santa Eufemia
-
Pont Maior
Theatr
golyguCafwyd sawl perfformiad theatrig dros y blynyddoedd. The work has been carried to the theater several times. Perffrmiodd y grwp Theatr Ourense Sarabela ddwywaith, yn 1996 ac wedyn yn 2010. Addaswyd y gwaith gan y dramodwyr Begoña Muñoz a Carlos Couceiro. Derbyniodd y ddau berfformiad wobrau.
Llyfryddiaeth (amlieithog)
golygu- Editorial Galaxia. A esmorga. ISBN 978-84-9865-890-3.
- A Nosa Terra. Historia xeral da literatura galega. 1ª. ISBN 84-95350-79-3.
- Universitat de Barcelona. Eduardo Blanco Amor e o teatro. ISBN 84-475-1060-3.
- Galaxia. Historia da Literatura Galega. 2ª. Dep.leg. VG-124-1971.
- Forcadela, Manuel Guía de lectura de A esmorga, de Eduardo Blanco Amor 1991, Edicións do Cumio.
- Freixanes, Víctor F.. Editorial Galaxia. Unha ducia de galegos. ISBN 84-7154-248-X.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ On a bender Mundo Andiante.
- ↑ Bieito Iglesias: Blanco Amor - O fillo da florista (p. 16-19) Asosiacion Escritores en Lingua Galega
- ↑ ´A Esmorga´, de Ignacio Vilar, se estrenará en el Festival de Cine de Ourense Faro de Vigo.
- ↑ 'A esmorga': Film Review - A tale of self-destruction in northern Spain, based on a classic Galician novel Hollywood Reporter. Viitattu 21.6.2015.