Mamal tyrchol o faint canolig yw'r aardvark (enw rhywogaeth Orycteropus afer) a geir mewn rhannau o Affrica is-Saharaidd. Daw'r enw o'r iaith Affricaneg ac mae'n golygu ‘mochyn daear’. Ceir hefyd yr enwau Cymraeg baedd daear (gwryrwaidd, lluosog: baeddod daear) a grugarth (benywaidd, lluosog: grugeirth).[1] Yr aardvark yw unig aelod ei urdd, Tubulidentata.

Aardvark
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Màs1.9 ±0.1 cilogram Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonOrycteropus Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 6. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aardvark
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Uwchurdd: Afrotheria
Urdd: Tubulidentata
Huxley, 1872
Teulu: Orycteropodidae
Gray, 1821
Genws: Orycteropus
Cuvier, 1798
Rhywogaeth: O. afer
Enw deuenwol
Orycteropus afer
(Pallas, 1766)

Anifail nosol yw'r aardvark. Mae oedolion yn tyfu i hyd at 1.5m. Mae'n byw mewn tiroedd glaswelltog fel y safana ac mae ganddo drwyn hir, clustiau mawr a chynffon dew.

Defnyddia'r aardvark ei grafangau hir i dyllu ffau yn y ddaear ac agor twmpathau morgrug gwynion (termitiaid) i'w llyfu i fyny â'i dafod hir.

Cyfeiriadau golygu

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1 [aardvark].
  Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.