Rhaglennydd cyfrifiadurol, awdur, archifydd, trefnydd gwleidyddol, ac ymgyrchydd rhyngrwyd oedd Aaron H. Swartz (8 Tachwedd 198611 Ionawr 2013).

Aaron Swartz
GanwydAaron Hillel George Swartz Edit this on Wikidata
8 Tachwedd 1986 Edit this on Wikidata
Highland Park, Illinois Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 2013 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethrhaglennwr, ysgrifennwr, Internet activist, wicimediwr, gweithredydd gwleidyddol, person busnes, hacktivist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amReddit, Open Library, RSS Edit this on Wikidata
TadRobert Swartz Edit this on Wikidata
MamSusan Swartz Edit this on Wikidata
PartnerQuinn Norton, Taren Stinebrickner-Kauffman Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr EFF, Gwobr James Madison, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.aaronsw.com Edit this on Wikidata

Roedd Swartz yn aelod o'r RSS-DEV Working Group a gyd-ysgrifennodd y fanyleb "RSS 1.0"[1] ac adeiladodd y fframwaith gwefan web.py a phensaernïaeth yr Open Library. Adeiladodd Swartz Infogami, cwmni a gyfunodd â Reddit. Canolbwyntiodd Swartz hefyd ar gymdeithaseg, ymwybyddiaeth ddinesig, a gweithredaeth wleidyddol. Yn 2010 roedd yn aelod o Ganolfan Moeseg Prifysgol Harvard. Cyd-sefydlodd y grŵp ar-lein Demand Progress (a adnabyddir am ei ymgyrch yn erbyn SOPA) ac yn ddiweddarach gweithiodd gyda'r grwpiau gweithredol Rootstrikers ac Avaaz.

Ar 6 Ionawr 2011, cafodd Swartz ei arestio mewn cysylltiad â llwytho i lawr erthyglau academaidd o JSTOR yn systematig, a ddaeth yn destun ymchwiliad ffederal.[2][3] Roedd Swartz yn feirniadol o bolisi JSTOR o godi pris am gael mynediad i erthyglau ac yn talu'r cyhoeddwyr yn lle'r awduron. Roedd ffïoedd JSTOR yn cyfyngu ar fynediad i waith a gyhoeddwyd gan golegau a phrifysgolion yr Unol Daleithiau.[4][5]

Ar 11 Ionawr 2013 cymerodd Swartz fywyd ei hunan yn ei randy yn Crown Heights, Brooklyn, trwy grogi.[6][7][8][9]

Cyfeiriadau golygu

  1. ""Introdution: Aaron Swartz"". Cyrchwyd 13 Ionawr 2013.
  2. Kirschbaum, Connor (3 Awst 2011). "Swartz indicted for JSTOR theft". The Tech. Massachusetts Institute of Technology. Cyrchwyd 12 Ionawr 2013.
  3. "Police Log". The Tech. Massachusetts Institute of Technology. 18 Chwefror 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-15. Cyrchwyd 12 Ionawr 2013.
  4. "Swartz "Steals" for Science". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-23. Cyrchwyd 13 Ionawr 2013.
  5. "The inspiring heroism of Aaron Swartz". Cyrchwyd 13 Ionawr 2013.
  6. "Aaron Swartz, internet freedom activist, dies aged 26". BBC News Online. 13 Ionawr 2013. Cyrchwyd 13 Ionawr 2013.
  7. Owen Thomas (12 Ionawr 2013). "Family Of Aaron Swartz Blames MIT, Prosecutors For His Death". Business Insider. Cyrchwyd 12 Ionawr 2013.
  8. John Schwartz (2013-01-13). "Internet Activist, a Creator of RSS, Is Dead at 26, Apparently a Suicide". The New York Times. Cyrchwyd 2013-01-13.
  9. Joe Kemp,Clare Trapasso and Larry Mcshane (12 Ionawr 2013). "Aaron Swartz, co-founder of Reddit and online activist, hangs himself in Brooklyn apartment, authorities say". The New York Daily News. Cyrchwyd 12 Ionawr 2013. Unknown parameter |subtitle= ignored (help)CS1 maint: uses authors parameter (link)

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: