Abacafir

(Ailgyfeiriad o Abacavir)

Abacafir (ABC) yw'r feddiginiaeth a ddefnyddir i atal a thrin HIV/AIDS.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₄H₁₈N₆O.

Abacafir
Delwedd:Abacavir.png, Abacavir.svg
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathnucleoside analogue, carbocyclic compound Edit this on Wikidata
Màs286.154 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₄h₁₈n₆o edit this on wikidata
Enw WHOAbacavir edit this on wikidata
Clefydau i'w trinAids, feirws imiwnoddiffygiant dynol edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia b3, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Yn cynnwyscarbon, hydrogen, nitrogen, ocsigen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn debyg i atalwyr transgriptas gwrthdaro niwcleosid eraill (NRTIs), defnyddir abacafir gyda meddyginiaethau HIV ychwanegol, ac ni argymhellir ei ddefnyddio ar ei ben ei hun. Fe'i cymerir drwy'r geg ar ffurf tabled neu doddiant a gellir ei ddefnyddio i drin plant dros dri mis oed.[2]

Sgil effeithiau

golygu

Yn gyffredinol, y mae Abacafir yn gyffur goddefgar. Mae ei sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys chwydu, trafferthion cysgu, twymyn a blinder. Gall arwain at sgîl-effeithiau mwy difrifol hefyd er enghraifft gorsensitifrwydd, niwed i'r afu, ac asidodid lactig. Gellir cynnal profion genetig er mwyn canfod a yw unigolyn yn debygol o ddatblygu symptomau gorsensitif. Mae'r symptomau hynny'n cynnwys brech, chwydu, a diffyg gallu i anadlu.  Mae Abacavir yn nosbarth meddyginiaethau NRTI, sy'n gweithio trwy rwystro gwrthdroi trawsgrifen, ensym sydd ei angen ar gyfer datblygu firws HIV. O fewn y dosbarth NRTI, mae abacavir yn niwcleosid carbocyclic.[3]

Rhoddwyd Abacafir oddi tan batent ym 1988 ac fe'i cymeradwywyd fel cyffur defnyddiol yn yr Unol Daleithiau ym 1998. Nodwyd y cyffur ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol, diogel a hanfodol mewn system iechyd.[4] Gellir cael mynediad iddo fel meddyginiaeth generig. Ei gost gyfanwerthol rhyngwladol ym 2014 oedd rhwng 0.36 a 0.83 o ddoleri'r diwrnod. O 2016, ei gost gyfanwerthol fisol yn yr Unol Daleithiau oedd 70.50 o ddoleri. Yn gyffredinol, caiff abacavir ei werthu ar y cyd â meddyginiaethau HIV eraill megis abacavir/lamivudine/zidovudine, abacavir/dolutegravir/lamivudine, a abacavir/lamivudine.

Defnydd meddygol

golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • syndrom diffyg imiwnolegol caffaeledig
  • feirws imiwnoddiffygiant dynol
  • Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Abacafir, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;


    Cyfeiriadau

    golygu
    1. Pubchem. "Abacavir". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. "What Not to Use Adult and Adolescent ARV Guidelines". AIDSinfo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-09. Cyrchwyd 2016-11-08. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
    3. "Nucleoside reverse transcriptase inhibitors (NRTIs or 'nukes') - HIV/AIDS". www.hiv.va.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-09. Cyrchwyd 2016-11-08. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
    4. "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!