Pennaeth ar gymuned o leianod sy'n byw mewn abaty a'i swydd yn cyfateb i swydd abad yw abades.[1] Fel teitl mae'r term yn tueddu i gael ei gyfyngu i'r Gristnogaeth, ond gelwir penaethiaid abatai Bwdhaidd yn abadesau hefyd weithiau, er enghraifft yn achos Bwdhaeth Tibet.

Abades
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth eglwysig, swydd Edit this on Wikidata
Mathchwaer grefyddol, superior, lleian, ordinari Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Abades

Yn yr Eglwys Geltaidd, penaethes ar gyd-gymuned o fynachod a lleianod oedd abades. Daethpwyd â'r arfer hon i'r cyfandir gan genadaethau Celtaidd i Ffrainc a Sbaen, ac hyd yn oed i Rufain. Yn 1115 cyflwynodd Robert d'Arbrissel, sefydlwr Abaty Fontevraud, holl weinyddiaeth yr urdd honno i abades.

Yn sgil y Diwygiad Protestannaidd yn yr Almaen, goroesai'r teitl abades (Almaeneg: Aebtissin) i ddynodi'r penaethiaid ar abatai sydd wedi cadw hen arferion y Stifte, hynny yw yr eglwysi colegaidd sydd yn rhoi llety i ferched dibriod, fel arfer o dras fonheddig, ac yn darparu incwm iddynt. Yn hanesyddol rhoddir y swydd honno i dywysoges o un o'r teuluoedd brenhinol Almaenig.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  abades. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Hydref 2019.