Abi Morgan
Dramodydd a sgriptiwr sgrîn o Gymru yw Abi Morgan OBE (ganed ym 1968) sy'n adnabyddus am ei gwaith ar gyfer y teledu, megis Sex Traffic a The Hour, a'r ffilmiau Brick Lane, The Iron Lady, Shame a Suffragette.
Abi Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 1968 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, llenor |
Adnabyddus am | The Iron Lady |
Gwobr/au | Gwobr Emmy 'Primetime' |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Morgan yng Nghaerdydd.[1] Mae hi'n ferch i'rr actores Pat England a'r cyfarwyddwr theatr Gareth Morgan, a oedd yn gyfarwyddwr Theatr Gulbenkian yn Newcastle upon Tyne (The Northern Stage, bellach). Ysgarodd ei rhieni pan oedd hi yn ei arddegau a threuliodd ei phlentyndod yn symud o gwmpas y wlad tra bod ei mam yn actio mewn theatr un cwmni; dywedodd wrth The Scotsman yn 2010 ei bod wedi mynychu saith ysgol wahanol yn ystod ei phlentyndod.[2]. Ei chwaer yw'r codwr arian ar gyfer yr Unicorn Theatre, Llundain.[3]
Ar ôl uchelgais cychwynnol i ddod yn actores ei hun, penderfynodd fod yn awdur tra bu'n astudio drama a llenyddiaeth ym Mhrifysgol Caerwysg.[4] Yna cymerodd gwrs ysgrifennu ôl radd yn yr Ysgol Ganolog Llefaredd a Drama.[3]
Gyrfa ysgrifennu
golyguTheatr
golyguWedi bod yn swil parthed dangos unrhyw un o'i ysgrifau "i unrhyw un am bum mlynedd", cafodd ei chredyd llwyfan cyntaf yn 1998 gyda Skinned yn Theatr Nuffield, Southampton. Mae hi wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y Theatr Stiwdio'r Royal Exchange Manceinion, Theatr y Royal Lyceum, Traverse Theatre, Caeredin, Theatr Genedlaethol yr Alban a'r Royal Court, Llundain. Enillodd ei ddrama o 2001, Tender ar gyfer Theatr Hampstead enwebiad am wobr "dramodydd mwyaf addawol" yng Ngwobrau Laurence Olivier i'r Theatr yn 2002.
Teledu
golyguEnillodd Morgan ei chredyd ysgrifennu teledu cyntaf ym 1998 ar ddrama gyfres ITV Peak Practice, dilynwyd hynny gyda'r ddrama teledu My Fragile Heart (2000) a drama i BBC2 Murder (2002), gyda Julie Walters yn serennu.[3]
Fe'i comisiynwyd i ysgrifennu'r ddrama unigol Sex Traffic ar gyfer Channel 4 yn 2004, am ferch yn ei arddegau a chafodd ei masnachu o'r Balcanau i Brydain. Enillodd y ddrama hon, a gyfarwyddwyd gan David Yates, wobr BAFTA 2005 ar gyfer y Gyfres Drama Gorau. Ers hynny mae wedi ysgrifennu nifer o ddramâu sengl ar gyfer teledu, gan gynnwys Tsunami: The Aftermath (2006), White Girl, rhan o'r gyfres White (2008) a Royal Wedding (2010), sy'n dilyn Priodas Frenhinol 1981 trwy ddilyn y digwyddiadau a gynhalid mewn pentref mwyngloddio bach Cymreig. Mae ei gwaith teledu hefyd yn cynnwys ysgrifennu Birdsong, addasiad teledu dwy ran o nofel Sebastian Faulks o'r un teitl.
Ysgrifennodd Morgan y ddrama gyfreithiol The Split, am fywydau preifat a phroffesiynol cyfreithwyr ysgariad, a ddangoswyd gyntaf ar BBC1 ym mis Ebrill 2018. Creodd ac ysgrifennodd y ddrama Eric a ryddhawyd ar Netflix yn 2024, sy'n serennu Benedict Cumberbatch a Gaby Hoffman.[5]
The Hour
golyguCyfres ddrama barhaus gyntaf Morgan ar gyfer y teledu oedd The Hour (2011), a osodwyd mewn ystafell newyddion y BBC yn ystod Argyfwng Suez 1956. Fe'i comisiynwyd ar gyfer ail gyfres,[4] ond cafodd ei ganslo ar ôl i'r ail gyfres gael ei drosglwyddo, roedd ei gynulleidfa chwarter yn is nag i'r gyfres gyntaf.[1] Yn 2013, enillodd Wobr Emmy Primetime ar gyfer Ysgrifennu Eithriadol mewn Cyfres fach, Ffilm, neu Raglen Drama Arbennig am The Hour,[1] roedd y gyfres wedi ei enwebu, yn aflwyddiannus yn 2012 hefyd.[6][7]
Ffilm
golyguMae Morgan hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer sinema: cafodd ei addasiad yn 2007 o nofel Monica Ali, Brick Lane, ei chanmol gan y beirniaid, ond creodd ddadleuon - bu rhai o bobl Bengal oedd yn byw ar Brick Lane wedi honni bod y ffilm yn ddifenwol" a phenderfynwyd canslo perfformiad ffilm frenhinol a oedd wedi'i gynllunio.[3] Ei ffilm nesaf oedd The Iron Lady, a oedd yn serennu Meryl Streep fel Margaret Thatcher. Yn fuan wedyn sgriptiodd y ffilm Shame, ar y cyd â Steve McQueen.[4] Enillodd ei gwaith ar The Iron Lady wobr BAFTA iddi am y Sgript Ffilm Wreiddiol Gorau,[8] tra enillodd ei gwaith ar Shame Wobr BAFTA iddi am Ffilm Brydeinig Eithriadol.
Bywyd personol
golyguMae Morgan yn byw yng Ngogledd Llundain gyda'i gŵr, yr actor Jacob Krichefski, a'u dau blentyn, Jesse a Mabel.[9]
Dyfarnwyd OBE i Morgan yn Anrhydedd Pen-blwydd 2018.
Gweithiau dethol
golyguDramâu
golygu- Skinned (1997)
- Sleeping Around (1998) – ar y cyd â Mark Ravenhill, Stephen Greenhorn a Hilary Fannin
- Fast Food (1999)
- Splendour (2000)
- Tiny Dynamite (2001)
- Tender (2001)
- Monster Mum (2005)
- Fugee (2008)
- Chain Play – Production II – ar y cyd â Neil LaBute, Mike Poulton a Tanya Ronder
- The Night is Darkest Before the Dawn (2009), fel rhan o The Great Game: Afghanistan
- Lovesong (2011)
- 27 (2011)
- The Mistress Contract (2014)
- The End (2017)
Sgriptiau ffilm
golygu- Brick Lane (2007)
- The Iron Lady (2011)
- Shame (2011)
- The Invisible Woman (2013)
- Suffragette (2015)
Sgriptiau teledu
golygu- My Fragile Heart (2000)
- Murder (2002)
- Sex Traffic (2004)
- Tsunami: The Aftermath (2006)
- White Girl
- Royal Wedding (2010)
- The Hour (2011)
- Birdsong (2012)
- River (2015)
- The Split (2018, 2020, 2022)
- Eric (2024)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Wales Online Writer Abi Morgan has the last laugh at the Emmys adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ Aidan Smith, Interview: Abi Morgan, screenwriter, The Scotsman, 4 Mai 2010
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 The Stage – 15 Gorffennaf, 2011; Abi Morgan: Cometh the hour adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Abi Morgan interview adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ Williams, Zoe (2024-05-24). "'It's been a crazy five years': Abi Morgan on surviving cancer ... and giving Benedict Cumberbatch his most monstrous role yet". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-06-09.
- ↑ OUTSTANDING WRITING FOR A MINISERIES, MOVIE OR A DRAMATIC SPECIAL – 2013 adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ OUTSTANDING WRITING FOR A MINISERIES, MOVIE OR A DRAMATIC SPECIAL – 2012 adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ BBC News Bafta Film Awards 2012: Winners adalwyd 25 Hydref 2018
- ↑ Lewis, Helen. "Abi Morgan on Suffragette: "These were voiceless women. We gave them a voice". New Statesman adalwyd 25 Hydref 2018