Abigail ( Hebraeg: אֲבִיגַיִל ) oedd gwraig Nabal; daeth yn wraig i'r gŵr a ddaeth wedyn yn Frenin Dafydd ar ôl marwolaeth Nabal (1 Samuel 25).[1] Abigail oedd ail wraig Dafydd, ar ôl Michal merch Saul, a rhoddodd Saul yn ddiweddarach yn briod i Palti, mab Laish pan aeth Dafydd i guddio rhag Saul.

Abigail
Ganwyd11 g CC Edit this on Wikidata
Bu farw10 g CC Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
Galwedigaethcydymaith Edit this on Wikidata
PriodNabal, Dafydd Edit this on Wikidata
PlantChileab Edit this on Wikidata

Daeth yn fam i un o feibion Dafydd, sydd wedi'i rhestru yn Llyfr y Croniclau o dan yr enw Daniel, yn Nhestun Masoretig Llyfrau Samuel fel Chileab, [2] ac yn nhestun Septuagint 2 Samuel 3: 3 fel Δαλουια, Dalouia.[3]

Tarddiad yr enw

golygu
 
Abigail darbodus gan Juan Antonio Escalante
 
Dafydd ac Abigail, torlun pren 1860 gan Julius Schnorr von Karolsfeld

Yn deillio o'r gair Hebraeg ab, "tad", a'r gwreiddyn Hebraeg g-y-l, "i lawenhau," mae gan yr enw Abigail amrywiaeth o ystyron posib gan gynnwys "llawenydd fy nhad" a "ffynhonnell llawenydd".[4][5]

Naratif Beiblaidd

golygu

Yn 1 Samuel 25,[6] mae Nabal, gŵr diddiolch, digymwynas, a hollol di-ddaioni yn arddangos amarch tuag at Dafydd, mab Jesse (o lwyth Jwda) [7], ac mae Abigail yn ceisio plagio Dafydd, er mwyn atal y ddarpar Frenin rhag dial. Mae hi'n rhoi bwyd iddo, ac yn siarad ag ef, gan ei annog i beidio â "dywallt gwaed heb achos, neu ddial o’m harglwydd ef ei hun" (adnod 31). Mae Abigail yn atgoffa Dafydd y bydd Duw yn ei wneud ei linach yn "dŷ sicr" (adnod 28). Mae Jon Levenson yn galw hyn yn “odineb diymwad” o broffwydoliaeth Nathan yn 2 Samuel 7.[8] Mae Alice Bach yn nodi bod Abigail yn ynganu "proffwydoliaeth dyngedfennol," ac mae'r Talmwd yn ei hystyried yn un o saith proffwyd benywaidd y Tanakh. Mae Levenson, fodd bynnag, yn awgrymu ei bod yn "synhwyro drifft hanes" o ddeallusrwydd yn hytrach nag o ddatguddiad arbennig.

Ar ôl i Abigail ddatgelu i Nabal yr hyn yr oedd hi wedi'i wneud, "ynghylch pen y deng niwrnod y trawodd yr Arglwydd Nabal, fel y bu efe farw" (adn.38), ac ar ôl hynny priododd hi â Dafydd. Disgrifir Abigail fel un deallus a hardd. Mae'r Talmwd yn ymhelaethu ar y syniad hwn, gan ei chrybwyll fel un o'r "pedair merch sy'n rhagori ar harddwch yn y byd," (y tair arall yw Rahab, Sarah, ac Esther ). Fel gwraig y Nabal cyfoethog, roedd hi hefyd yn fenyw o statws economaidd cymdeithasol uchel. Mae'n aneglur os briododd Dafydd hi oherwydd iddo gael ei ddenu iddi, neu fel symudiad gwleidyddol craff, neu'r ddau.[9]

Mae Abigail ac ail wraig Dafydd, Ahinoam y Jesreeliad, yn mynd gyda Dafydd a'i filwyr wrth iddynt geisio lloches yn nhiriogaeth y Philistiad. Tra bod Dafydd a'i ddynion yn gwersylla ger Jesreel, cânt eu cipio gan Amaleciaid a oedd wedi ysbeilio tref Siclag a chludo'r menywod a'r plant. Arweiniodd Dafydd yr ymlid, ac fe'u hachubwyd wedi hynny. Yna mae'r ddwy wraig yn ymgartrefu gyda Dafydd yn Hebron, lle mae Abigail yn esgor ar ail fab Dafydd, Chileab (a elwir hefyd yn Daniel).[4][9]

Dadansoddiad

golygu

Rhestrir Abigail hefyd fel un o'r saith proffwyd benywaidd Iddewig. Y chwech arall yw Miriam, Deborah, Hannah, Sarah, Huldah, ac Esther. O ran ei chymeriad moesol, mae Abraham Kuyper yn dadlau bod ymddygiad Abigail yn nodi "cymeriad mwyaf apelgar a ffydd ddiwyro," [10] ond mae Alice Bach yn ei hystyried yn wrthdrawiadol.

Mae Adele Berlin yn cyferbynnu stori Abigail â stori Bathseba. Mewn un, mae'r wraig yn atal Dafydd rhag llofruddio ei gŵr ffôl a thrachwantus. Yn yr ail, mae Dafydd yn gorchymyn llofruddio dyn da oherwydd ei fod yn dymuno ei wraig. "Yn stori Abigail, mae Dafydd, y darpar frenin, yn cael ei ystyried yn fwyfwy cryf a rhinweddol. Yn stori Bathseba, mae'r frenhiniaeth sy'n teyrnasu yn dangos ei ddiffygion yn fwy agored byth ac yn dechrau colli rheolaeth ar ei deulu." [9]

Mae Levenson a Halpern yn awgrymu y gallai Abigail, mewn gwirionedd, fod yr un person ag Abigail, mam Amasa.[11] Mae Richard M. Davidson, fodd bynnag, yn tynnu sylw at y ffaith "ar sail ffurf derfynol canon yr Hen Destament, mae cyfeiriadau at Abigail yn y cyfrifon Beiblaidd yn dynodi dau unigolyn gwahanol." [12]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
  1. "Abigail | biblical figure". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-07-31.
  2. "2 Samuel 3:3 - Beibl William Morgan". Bible Gateway. Cyrchwyd 2020-07-31.
  3. 2 Samuel 3, LXX
  4. 4.0 4.1 Jones, John, (Mathetes) (1864); Geiriadur Beiblaidd a Duwinyddol, Abigail tud 22 adalwyd 31 Gorffennaf 2020
  5. Charles, Thomas, 1755-1814, Geiriadur Ysgrythyrol (argraffiad Utica 1863) tud 23 Abigail adalwyd 31 Gorffennaf 2020
  6. "1 Samuel 25 - Beibl William Morgan". Bible Gateway. Cyrchwyd 2020-07-31.
  7. Y Winllan Cyf. LX rhif. 4 - Ebrill 1907 Dynion Dinod y Beibl; Nabal,— Y Goludog Ynfyd. Gan y Parch. R. W. Jones, Llangefni adalwyd 31 Gorffennaf 2020
  8. Jon D. Levenson, "1 Samuel 25 as Literature and History," CBQ 40 [1978] 20.
  9. 9.0 9.1 9.2 Berlin, Adele. "Abigail: Bible". jwa.org. Jewish Women's Archive.
  10. Abraham Kuyper, Women of the Old Testament (Grand Rapids: Zondervan, 1941), 106.
  11. Jon D. Levenson and Baruch Halpern, "The Political Import of David's Marriages," JBL 99 [1980] 511–512.
  12. Davidson, Richard M. (2007). Flame of Yahweh: A Theology of Sexuality in the Old Testament. Hendrickson. tud. 444 adalwyd 31 Gorffennaf 2020