Abisag

un o ferched y Beibl

Roedd Abisag (Hebreig אבישג‎) yn fenyw hynod olygus ac yn gywely i’r brenin Dafydd yn ei henaint. Roedd hi'n ganolog i'r ymgyrch aflwyddiannus i sicrhau olyniaeth Adoniah (pedwerydd mab Dafydd a'r hynaf i oroesi) i'w orsedd ar ôl farwolaeth y brenin [1] yn hytrach na Solomon, ei hanner frawd iau.

Abisag
GanwydSunem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
PartnerDafydd Edit this on Wikidata
Abisag, Bathseba, Solomon, a Nathan yn ofalu am Dafydd yn ei henaint, Tua. 1435

Y Naratif Beiblaidd

golygu

Roedd y brenin Dafydd yn hen ac yn llesg, ac yn teimlo'n oer o hyd, er pentyrru dillad drosto.[2] Er mwyn ceisio cynhesu'r brenin yn ei wely mae Abisag, merch ifanc olygus a nwydus o bentref Sunem, ger Nasareth yn cael ei roi i Dafydd, yn na'arah (sy'n dynodi ieuenctid a / neu wyryfdod, ond nid y ddau o reidrwydd.) Fe’i dewiswyd i fod yn gynorthwyydd ac yn gywely i’r brenin Dafydd yn ei henaint . Ymhlith dyletswyddau Abisag oedd gorwedd wrth ymyl Dafydd a phasio ei gwres a'i egni anifeilaidd iddo, ond ni chafodd cyfathrach rywiol gydag ef (1 Brenhinoedd 1: 4).[3]

Mae The Interpreter's Bible [4] yn nodi bod:

yr Hebreaid ... yn credu bod ffrwythlondeb y pridd a ffyniant cyffredinol y bobl yn gysylltiedig â ffrwythlondeb y brenin. Erbyn hyn roedd Dafydd yn hen ac yn llesg ac roedd amheuaeth ynghylch ei egni rhywiol. Gwneir ymdrechion i unioni'r sefyllfa. Y moddion cyntaf yw tywallt dillad ar ei wely er mwyn sicrhau gwres corfforol a allai ei wneud yn nwydus. Pan wnaeth hynny methu, aethant ati i chwilio am y fenyw harddaf yn y tir. Rhoddir pwyslais mawr ar swyn Abisag. Mae'r LXX yn cefnogi hyn trwy gyfieithu adnod 2 fel, "a gadael iddi ei gyffroi a gorwedd gydag ef." Mae'r ffaith nad chafodd y brenin gyfathrach rywiol gyda hi yn ganolog i'r stori. The Interpreter's Bible [4]

Ar ôl marwolaeth Dafydd, perswadiodd Adoniah (pedwerydd mab Dafydd a'r hynaf i oroesi ), Bathseba, mam y brenin Solomon, i erfyn ar y brenin i ganiatáu iddo briodi Abisag. Roedd Solomon yn amau bod y cais yn ddyhead i gymryd yr orsedd oddi wrtho, gan fod Abisag yn cael ei ystyried yn ordderchwraig Dafydd [5][6], ac felly fe orchmynnodd dienyddiad Adoniah (1 Brenhinoedd 2: 17-25). Yn y stori cynharach am wrthryfel Absalom nodir bod cael rhyw gyda hen ordderch y brenin yn ffordd o cyhoeddi eich hun i fod y brenin newydd. Efallai fod Adoniah wedi gofyn am ei phriodi ar awgrym ei fam.

Mae rhai ysgolheigion yn tynnu sylw at y posibilrwydd mai Abisag yw'r prif gymeriad benywaidd yng Nghaniad Solomon .[7]

Canlyniadau

golygu

Er nad oes son am Abisag, yn benodol, ar ôl ddienyddiad Adoniah bu llawer o ganlyniadau:

  • Mae Solomon yn diswyddo Abiathar yr Archoffeiriad, gan ei alltudio or ddinas Jeriwsalem [8]
  • Mae Joab bu'n gwrthryfela yn erbyn Dafydd a Solomon yn cael ei drechu
  • Mae Teyrnasiad Solomon yn cael ei gadarnhau [9]

Dylanwad Llenyddol

golygu

Mae profiadau Abisag wedi ysbrydoli awduron cyfoes gan gynnwys Rainer Maria Rilke, Itzik Manger, Louise Gluck a Shirley Kaufman.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
  1. Jones, Jones, John, (Mathetes) (1864); Geiriadur Beiblaidd a Duwinyddol: Adoniah tud 126 adalwyd 1 Awst 2020
  2. 1 Brenhinoedd 1:1 adalwyd 1 Awst 2020
  3. Beibl William Morgan ond yn fwy eglur yn Y Beibl Cymraeg Newydd: Yr oedd yn eneth brydferth iawn, a bu'n ymgeledd i'r brenin ac yn gofalu amdano; ond ni chafodd y brenin gyfathrach â hi adalwyd 1 Awst 2020
  4. 4.0 4.1 Buttrick, George Arthur (gol) (1951). The Interpreter's Bible : the Holy Scriptures in the King James and Revised standard versions with general articles and introduction, exegesis, exposition for each book of the Bible. , , 1892-1980. New York: Abingdon-Cokesbury Press. ISBN 0-687-19207-2. OCLC 355416.
  5. Fleming, Donald C. (2005). "Bridgeway Bible Commentary". Cyrchwyd July 12, 2019. Since a new king inherited the former king's concubines, Solomon considered that Adonijah's request to marry Abishag was an attempt to claim David's throne
  6. Clark, Adam (1832). "Adam Clark Commentaries". Cyrchwyd July 12, 2019. He cheerfully gives up all right to the kingdom, and only desires to have this young woman, who, though she had been his father's wife or concubine, was still in a state of virginity.
  7. Christopher W. Mitchell, The Song of Songs (Saint Louis: Concordia, 2003), 130–132.
  8. "1 Brenhinoedd 2:35 - Beibl William Morgan". Bible Gateway. Cyrchwyd 2020-08-01.
  9. Y cyfaill o'r hen wlad yn America Cyf. XVIII rhif. 214 - Hydref 1855 Hanesyddiaeth Ysgrythyrol – Solomon adalwyd 1 Awst 2020