Abraham Mathews
Un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia oedd y Parchedig Abraham Mathews (1832 – 1 Ebrill 1899).
Abraham Mathews | |
---|---|
Ganwyd | 7 Tachwedd 1832 Llanidloes |
Bu farw | 1 Ebrill 1899 Trelew |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Galwedigaeth | ffermwr |
Ganed ef yn Llanidloes, ac astudiodd yng Ngholeg Annibynnol y Bala, lle roedd Michael D. Jones yn brifathro. Daeth yn weinidog Horeb, Llwydcoed, Aberdâr, yn 1859. Yn 1865 roedd yn un o'r fintai a hwyliodd i Batagonia ar y Mimosa. Roedd y fintai hefyd yn cynnwys ei wraig Gwenllian (née Thomas) a'u merch un oed, Annie, ac eraill o ardal Aberdâr; ffurfiai'r rhain un o'r carfanau mwyaf ymhlith yr ymfudwyr, yn dystiolaeth i ddylanwad Mathews.
Bu Abraham Matthews yn gweithio fel gweinidog a ffermwr yn y wladfa am weddill ei oes, heblaw am ymweliadau a Chymru a'r Unol Daleithiau. Yn 1874, gallodd drefnu mintai o ymfudwyr o bob un o'r ddwy wlad. Ysgifennodd lyfr ar hanes y Wladfa, Hanes y Wladfa Gymreig (Aberdâr).