Abri
Cyfres o gigiau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yng Nghaerdydd oedd Abri. Cawsant eu trefnu gan Gymdeithas yr Iaith ar nos Iau olaf bob mis yng nghlwb nos y Toucan ar Heol Eglwys Fair. Agorodd y drysau am y tro cyntaf ar y 25ain o Awst 2003, gyda Davey Crocket o'r band Crimea yn arwain y noson, gyda chefnogaeth gan y band Maharishi a DJ Jaffa.[1] Daeth y nosweithiau i ben yn ddisymwth ddwy flynedd yn ddiweddarach gyda phenderfyniad perchennog clwb y Toucan i gau'r clwb hwnnw.[2]