Heol Eglwys Fair/Heol Fawr

stryd yng Nghaerdydd
(Ailgyfeiriad o Heol Eglwys Fair)

Mae Heol Eglwys Fair (Saesneg: St Mary Street) a Heol Fawr (Saesneg: High Street) yn un o brif strydoedd masnachol yn Ardal y Castell yng nghanol Caerdydd, sy'n arwain o'r gogledd i'r de drwy ganol y ddinas. Mae Heol Fawr yn dechrau ar gyffordd Stryd y Castell ar yr A4161 ac yn gorffen ar gyffordd Stryd yr Eglwys a Stryd y Cei, lle mae Heol Eglwys Fair yn cychwyn cyn dirwyn i ben ar y gylchfan yn Sgwâr Callaghan ar yr A4160.

Heol Eglwys Fair/Heol Fawr
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliadcanol dinas Caerdydd Edit this on Wikidata
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4782°N 3.178°W Edit this on Wikidata
Map
Map John Speed o Gaerdydd yn 1610, sy'n dangos Heol Fawr a Eglwys y Santes Fair

Hanes golygu

Enwyd Heol Eglwys Fair ar ôl Eglwys y Santes Fair o'r 11g, a oedd yr eglwys fwyaf yng Nghaerdydd nes iddo gael ei ddinistrio gan lifogydd Môr Hafren yn 1607.

Heddiw mae'r stryd yn gartref i sawl bar, clwb nos a thŷ bwyta ynghyd â changhennau sawl prif fanc. Hefyd yn wynebu'r stryd mae siop adrannol Howells, sy'n estyn o ychydig heibio Marchnad Caerdydd i gornel Heol Wharton.

Ers Awst 2007 mae'r stryd wedi bod ar gau i gerbydau preifat a dim ond bysus a thacsis sy'n cael mynediad llawn i'r stryd gyfan. Fel arfer mae'r stryd ar gau yn gyfan gwbl i draffig ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, i ganiatáu'r llif o bobl o'r clybiau nos a'r tafarndai sydd yn y stryd i glirio. Mae'r Prince of Wales (tafarn J D Wetherspoon) yn broblem benodol, oherwydd y nifer uchel o bobl sy'n gallu mynd i'r dafarn a blaen yr adeilad ar Stryd Wood (sydd ar agor i drafnidiaeth). Ar ben gogleddol y stryd mae Stryd y Castell, lle mae Castell Caerdydd. I'r de mae Gorsaf Caerdydd Canolog.

Adeiladau nodedig o'r gorffennol a'r presennol golygu

Adeiladau presennol golygu

Adeiladau wedi eu dymchwel golygu

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Town Hall, St. Mary Street, Cardiff, late 19th century". Culturenet Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-05. Cyrchwyd 2009-02-11.

Dolenni allanol golygu