Daeargryn L'Aquila 2009
Roedd y ddaeargryn a darrodd L'Aquila, Abruzzo, yn yr Eidal ar y 6ed o Ebrill 2009 yn mesur 6.3 ar y graddfa moment. Cafwyd nifer o gryniadau bach rhwng mis Ionawr a'r digwyddiad, gan gynnwys tirgryniad o 4.0 ar y 30 o Fawrth, 2009. Roedd y rhan fwyaf o'r dinistr yn ninas ganoloesol L'Aquila (prifddinas ardal Abruzzo) a phentrefi cyfagos. Bu farw dros 150 o bobl yn ystod y 24 awr cyntaf. Erbyn y 10fed o Ebrill, 2009, gŵyr fod o leiaf 289 o bobl wedi marw,[1] gyda 10 person dal ar goll.[2] Yn y bôn, bu farw 308 o bobl.[3] Dyma'r ddaeargryn fwya dinistriol yn yr Eidal ers daeargryn Irpinia 1980.
Enghraifft o'r canlynol | Daeargryn |
---|---|
Dyddiad | 6 Ebrill 2009 |
Lladdwyd | 309 |
Lleoliad | Abruzzo |
Gwladwriaeth | yr Eidal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 2012 cafodd chwe gwyddonydd a chyn-swyddog o Lywodraeth yr Eidal eu dedfrydu i garchar am chwe blynedd yr un am ddynladdiad. Honodd yr erlynwyr bod y saith wedi gwneud cyhoeddiadau camarweiniol cyn i’r ddaeargryn daro.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Italy mourns earthquake victims Newyddion BBC. Adalwyd 10-04-2009
- ↑ (Saesneg) "Italy death toll rises to 275".[dolen farw] Associated Press. 2009-04-09. Adawlyd 2009-04-09.
- ↑ (Saesneg) Camilli, Annalisa (22 Hydref 2012). 7 experts convicted for not warning of quake risk. Associated Press. Google News. Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
- ↑ Daeargryn L’Aquila: Saith yn euog o ddynladdiad. Golwg360 (22 Hydref 2012). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.